Ganwyd 16 Tachwedd 1896, yn 6 Broad Street, Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych, yn un o naw plentyn William Hughes a'i wraig Catherine. Addysgwyd ef yn ysgol y Grango, Rhosllannerchrugog; gadawodd yr ysgol i dreulio wyth mlynedd yng nglofa'r Hafod, ger ei gartref. Ymgollai mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a bu'n arwain corau yn y Rhos, gan astudio cynghanedd a gwrthbwynt gyda'r Dr. J.C. Bridge, organydd eglwys gadeiriol Caer. Aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1921, ac ar ôl graddio mewn cerddoriaeth yn 1924 arhosodd yno am flwyddyn yn ychwanegol i astudio llenyddiaeth Gymraeg gyda Thomas Gwynn Jones. Bu'n llywydd Cymdeithas Geltaidd y coleg. Bu'n organydd a chôr-feistr eglwys Noddfa (B), Treorci, 1925-42, ac yna fe'i penodwyd yn drefnydd cerdd sir Feirionnydd, ac ymgartrefodd yn Nolgellau. Ef oedd y cyntaf i'w benodi'n drefnydd cerdd llawn-amser gan awdurdod addysg yng Nghymru.
Erbyn iddo ymddeol yn 1961 daethai i gryn amlygrwydd fel arweinydd, beirniad a darlithydd. Llwyddodd i godi corau ymhob rhan o Sir Feirionnydd, a threfnodd nifer o wyliau cerddorol llwyddiannus yn y sir. Arweiniodd 50 o berfformiadau o 20 o wahanol weithiau corawl rhwng 1942 ac 1961, ac oherwydd y gweithgarwch hwnnw y penderfynwyd sefydlu Gwyl Gerdd Dyfrdwy a Chlwyd yng Nghorwen (1955),-gwyl y bu ef yn gwasanaethu fel côr-feistr iddi am yr wyth mlynedd cyntaf. Bu'n weithgar hefyd gyda'r eisteddfod; gofalai am yr ochr gerddorol yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau (1949), ac ef oedd yn gyfrifol am baratoi corau'r Eisteddfod ym Mae Colwyn (1947), Llanrwst (1951), Dyffryn Maelor (1961) a Llandudno (1963). Gwasanaethodd hefyd fel beirniad, ac yn ystod blynyddoedd olaf ei oes bu'n golygu'r trosiadau Cymraeg yn adran gerddoriaeth y brifwyl.
Yr oedd yn Fedyddiwr selog, ac etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, 1963-64. Cymerai ddiddordeb arbennig ym mawl yr eglwys, ac ystyrid ef yn gryn awdurdod ar hanes cerddoriaeth eglwysig. Golygodd Llawlyfr moliant newydd (1955) a Mawl yr ifanc (1968), ac yr oedd yn aelod o fwrdd golygyddol y Baptist hymn book (1962). Golygodd hefyd y gerddoriaeth yn Llyfr gweddi a mawl i ysgolion (1958) i bwyllgorau addysg siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Cheredigion. Cynhwyswyd amryw o'i donau gwreiddiol a'i drefniadau o emyn-donau a charolau yn Rhaglen goffa John Hughes, 1896-1968, sy'n rhoi cip ar aml arweddau ei yrfa fel cerddor, golygydd, chwilotwr ac ysgolhaig.
Nid oedd yn gyfansoddwr toreithiog, er iddo ysgrifennu rhai tonau cynulleidfaol, megis ' Maelor ' ac ' Arwelfa ' a ddaeth yn wir boblogaidd. Amlygodd ei wir ddawn gerddorol fel arweinydd ac fel hyfforddwr corau. Bu farw mewn ysbyty yng Nghaerdydd, 14 Tachwedd 1968, a'i gladdu ym mynwent Rhosllannerchrugog.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.