HUGHES, WILLIAM ROGER (1898 - 1958), offeiriad a bardd

Enw: William Roger Hughes
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1958
Priod: Mabel Hughes (née Mansbridge)
Rhiant: Ann Hughes
Rhiant: John Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 27 Mai 1898, mab John ac Ann Hughes, Sain-y-gog, Llangristiolus, Môn. Yn fachgen ifanc bu'n gweithio yn Lerpwl, a bu yn Ffrainc a'r Aifft gyda'r fyddin yn ystod Rhyfel Byd I. Aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, yn 1922, a graddio yn 1925. Yn yr un flwyddyn aeth yn gurad yn yr Wyddgrug, ac yn 1929 yn Nhreffynnon. Penodwyd ef i fywoliaeth Llwydiarth, Trefaldwyn, yn 1930, ac i ficeriaeth Bryneglwys yn Iâl yn 1933, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu'n ddeon gwlad Edeirnion ac yn ganon trigiannol Llanelwy. Ef oedd golygydd Yr Haul o 1930 hyd 1938. Bu'n amlwg yn ei ardal fel cynghorwr dosbarth ac arweinydd côr. Fel bardd enillodd gadair Eisteddfod Powys yn 1930, a daeth yn uchel rai gweithiau yng nghystadleuaeth y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol Bu am rai blynyddoedd yn dderwydd gweinyddol Gorsedd Powys. Cyhoeddodd gasgliad bychan o'i farddoniaeth yn 1932 dan y teitl Cerddi offeiriad, yn cynnwys awdl a phryddest eisteddfodol a nifer o delynegion mwy gwrthrychol na llawer o gerddi cyffredin y cyfnod. Bu farw 5 Ebrill 1958. Priododd yn 1929 Mabel Mansbridge o Wernmynydd ger yr Wyddgrug, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.