Ganwyd 18 Mehefin 1888, yn Nhanycelyn, Rhostryfan, Sir Gaernarfon, mab Samuel a Mary Hughes. Ar ôl y cwrs arferol yn ysgol elfennol ei bentref bu am rai blynyddoedd yn gweithio mewn masnachdy, ac oddi yno aeth i ysgol Clynnog â'i fryd ar y weinidogaeth. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), a graddiodd mewn diwinyddiaeth yn y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Ordeiniwyd ef yn 1918, gweinidogaethodd yng Nghalfaria, Porth, Morgannwg (1918-22), Fourcrosses, Llŷn (1922-24), a'r Garreg-ddu, Blaenau Ffestiniog (1924-30). Galwyd ef yn 1930 i Goleg Clwyd, Rhyl, a bu yno hyd ei farwolaeth, yn athro i gychwyn (dan y Parch R. Dewi Williams), ac am 13 blynedd yn brifathro. Cafodd gryn ddylanwad ar fwy nag un to o fyfyrwyr a fu tan ei ofal yno. Yn 1919 priododd Jane Morris Jones, merch William Morris Jones (cadeirydd cyngor sir Arfon yn ei ddydd); ganwyd mab a merch o'r briodas. Bu farw 16 Ebrill 1952. Cyfrifid ef yn bregethwr praff, o anian broffwydol. Ymhyfrydodd mewn beirniadaeth ysgrythurol a phynciau diwinyddol. Cyhoeddwyd gwerslyfr o'r eiddo ar Efengyl Mathew yn 1937.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.