HUMPHREYS, EDWARD OWEN (1899 - 1959), addysgwr

Enw: Edward Owen Humphreys
Dyddiad geni: 1899
Dyddiad marw: 1959
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgwr
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd 2 Tachwedd 1899 yn yr Hendre, Cefnddwysarn, Meirionnydd. Cafodd ei addysg yn ysgol y Sarnau, ysgol ramadeg y Bala a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd mewn cemeg a gwyddor gwlad yn 1922. O 1923-28 bu'n athro yn ysgol gynradd Banks Road ac yn ysgol uwchradd a sefydliad technegol Lister Drive yn Lerpwl. Enillodd radd M.A. Lerpwl yn 1930 am draethawd ar ddylanwad amodau cymdeithasegol ar blant ysgol. Yn 1928 daeth yn ddarlithydd i'r Coleg Normal ym Mangor, yn gyfrifol yn bennaf am ddysgu gwyddor gwlad, ac yna yn 1935 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr addysg Môn.

Ym Môn aeth ati i wireddu ei ddelfrydau. Credai'n ffyrnig i Gymru golli cyfle euraid yn sgil Deddf Addysg Ganolraddol a Thechnegol Cymru 1889 i sefydlu cyfundrefn o ysgolion canol a oedd yn cyflawni anghenion pob plentyn ac yn adlewyrchu bywyd y gymdeithas gyfan, bodlonwyd ar ddynwared ysgolion gramadeg Lloegr a darparu ar gyfer yr ychydig. Ym Môn mynnai E.O. H. gychwyn o newydd, ar sail Deddf 1889. Yn 1936 cafodd gan bwyllgor addysg y sir ddatgan o blaid egwyddor ysgolion uwchradd amlochrog ar gyfer pob plentyn. Y cam nesaf oedd darbwyllo'r awdurdodau i ganiatàu ei gweithredu. Pan basiwyd Deddf Addysg Butler yn 1944 gwelodd ei gyfle ac aildrefnwyd addysg uwchradd ym Môn mewn pedair ysgol gyfun - y sir gyntaf i wneud hynny. (Gweler ysgrif ganddo ar ' Chwyldro addysg Môn ' yn y cylchgrawn Môn, Awst 1957). Am iddo fynnu gwireddu ei weledigaeth fe'i hystyrir 'yn grëwr yr ysgol gyfun '.

Bu'n un o gyd-olygyddion Môn ac yn gefnogwr selog i Gyngor Gwlad Môn, Cymdeithas Eisteddfod Môn, a'r Eisteddfod Genedlaethol

Bu farw 11 Mai 1959, gan adael gweddw, dau fab a dwy ferch, ac fe'i claddwyd yn Llangristiolus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.