Ganwyd ef 13 Mai 1887 yn Llundain yn un o ddau o feibion i Cathryn (ganwyd Thomas) a John James. Dychwelodd y teulu i'r hen gartref ym Mhantyfedwen, Pontrhydfendigaid, Ceredigion, pan oedd y ddau fachgen yn ifanc. Yn 1903 aeth i goleg S. Ioan, Ystrad Meurig, ar gyfer paratoi i fynd i'r weinidogaeth ond bu yno am dymor yn unig. Dychwelodd i Lundain i ofalu am fusnes laeth y teulu a threuliodd weddill ei fywyd yno ac yn Barcombe yn swydd Sussex. Priododd â Grace Lily Stevens, 24 Ebrill 1924. Er iddo barhau â diddordebau busnes yn y diwydiannau llaeth a phrynu gwenith cofir ef yn arbennig yn berchen tair ar ddeg o sinemâu yn Llundain. Adeiladodd y gyntaf o super-cinemas Llundain a'i hagor yn 1920, sef y Palladium, Palmer's Green. Yn y 1930au gwerthodd bob un ohonynt, ac eithrio Stiwdio 1 a 2, lle y bu Cymry Llundain yn cwrdd am gyfnod. Bu'n gadeirydd tri o gwmnïoedd cyn ymddeol yn 1957.
Yn ystod ei fywyd rhoddodd symiau sylweddol i'r enwadau Anghydffurfiol ac i'r Eglwys yng Nghymru i wella cyflogau a phensiynau gweinidogion, i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, i bentref Pontrhydfendigaid ac i lu o achosion eraill. Sefydlodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen yn 1952 a gweinyddwyd hi o Lundain. Ei phwrpas oedd hybu achosion crefyddol, addysgiadol ac elusennol yng Nghymru. Diddymwyd hon yn 1957 pan sefydlodd Ymddiriedolaeth Cathryn a'r Fonesig Grace James (a enwyd ar ôl ei fam a'i wraig). Yn 1967 sefydlodd ail Ymddiriedolaeth yn enw John (ei dad) a Rhys Thomas James (ei frawd a fu farw yn ifanc). Ddiwedd y 1950au sefydlwyd Eisteddfodau Pantyfedwen ym Mhontrhydfendigaid (Eisteddfod Teulu James), Aberteifi (Eisteddfod Coffa John James) a Llanbedr Pont Steffan (Eisteddfod Rhys Thomas James). Prif nod Syr D. J. James oedd rhoi cyfle i unigolion i gystadlu mewn eisteddfodau lle'r oedd y safon rhwng yr eisteddfodau lleol a'r genedlaethol. Bu'n ymwneud â symud gweinyddiaeth yr ymddiriedolaethau i Aberystwyth ond bu farw cyn agor y swyddfeydd yno'n swyddogol yn 1968.
Derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1957, cafodd ei urddo'n farchog yn 1959, derbyniwyd ef i Urdd Wen Gorsedd y Beirdd yn 1965 a'r un flwyddyn cyflwynwyd rhyddfraint bwrdeistref Aberystwyth iddo.
Bu farw ei wraig 20 Chwefror 1963 ac yntau 7 Mawrth 1967 a chladdwyd hwy ym mynwent Ystrad Fflur.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.