Ganwyd 27 Mehefin 1909, yn Rhymni, Mynwy, yn fab David Jones, a'i wraig Myfanwy, merch Thomas Twynog Jeffreys. Derbyniodd ei addysg elfennol yn Ystradmynach lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr. Oddi yno aeth i Ysgol Lewis, Pengam, a chwedyn (1928) i Goleg Prifysgol Deau Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd. Graddiodd yn 1931 gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Economeg a thrachefn yn 1933 gydag anrhydedd (ail ddosbarth, adran gyntaf) mewn Hanes. Yn ystod ei yrfa yn y coleg enillodd wobrau Cobden a Gladstone ac ysgoloriaeth ymchwil a ddefnyddiodd i astudio amaethyddiaeth yng Nghymru yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Enillodd radd M.A. am ei draethawd ymchwil ('The enclosure movement in South Wales during the Tudor and early Stuart periods'), 1936, a chyhoeddodd adran ohono yn Harlech Studies (1938). Yn 1935 fe'i hapwyntiwyd yn diwtor yng Ngholeg Harlech i ddarlithio ar hanes, gwleidyddiaeth ac economeg. Pan gaeodd y coleg oherwydd y Rhyfel yn 1940 bu am flwyddyn yn athro hanes yn Ysgol Lewis, Pengam, ac yna apwyntiwyd ef ar staff Adran Efrydiau Allanol, Aberystwyth, i gymryd gofal o ddosbarthiadau yn Sir Gaerfyrddin. Yn 1948 gwahoddwyd ef yn ôl i Goleg Harlech a oedd wedi ailagor yn 1946, yn diwtor hynaf, ac yna fe'i dyrchafwyd yn Warden y coleg yn 1960. Cafodd gymrodoriaeth Leverhulme yn 1958 a dychwelodd at ei brif bwnc ymchwil, sef hanes amaethyddiaeth yng Nghymru. Gwelwyd ffrwyth ei ymchwil mewn nifer o erthyglau mewn cylchgronau, ond yn y cyfamser yr oedd wedi bod yn ddiwyd yn cynhyrchu dau lyfr yn casglu defnyddiau crai i'r hanesydd, sef Exchequer proceedings concerning Wales in tempore James I (1955) ac Acts of Parliament concerning Wales, 1714-1901 (1959), y ddau gan Wasg Prifysgol Cymru. Yr oedd addysg oedolion yn agos iawn at ei galon a llwyddodd i ddatblygu'r addysg a gyfrennid yng Ngholeg Harlech drwy ei gwneud yn bosibl i fyfyrwyr mewnol gymryd arholiad am ddiploma Prifysgol Cymru mewn astudiaethau cyffredinol, drwy gychwyn cwrs drwy'r post ar gyfer dysgwyr Cymraeg, a thrwy gynllunio bloc newydd o adeiladau a chael yr arian ar ei gyfer. Yr oedd yn ynad heddwch ac yn aelod o amryw gyrff cyhoeddus ond dau angerdd ei fywyd oedd hanes Cymru ac addysg oedolion. Bu farw 14 Ionawr 1967. Yr oedd wedi priodi Nancy Watkins yn 1938 a chawsant un mab.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.