Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd yn Abertawe, Morgannwg, 9 Medi 1878, yn fab i Daniel ac Elizabeth Ann Jenkins. Priododd, 1906, â Beatrice (bu farw 1967), merch Frederick ac Elizabeth Tyler, Pirbright, Surrey. Daeth yn amlwg yn y gwaith glo yng Nghymru fel pennaeth William A. Jenkins a'r Cwmni, Wholesale Coal and Coke Factors, a hefyd fel brocer llongau. Cydnabyddwyd mewn llawer o wledydd Ewropeaidd ei weithgarwch masnachol a'i gyfraniad i fudiadau elusennol a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Ni ddatblygodd ei ddiddordebau politicaidd hyd ar ôl Rhyfel Byd I pryd yr etholwyd ef yn A.S. (Rh. Cenedlaethol) dros Frycheiniog a Maesyfed yn 1922. Collodd ei sedd yn etholiad cyffredinol 1924 ac wedi hynny trodd ei sylw at lywodraeth leol. Yn 1927 etholwyd ef yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Abertawe a gwasanaethodd yno hyd 1954, gan fod yn faer Abertawe 1947-49. Bu'n llywydd ac ymddiriedolwr Banc Cynilo De Cymru ac yn 1949 etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Bu'n llywydd Cenhadaeth Abertawe a Chanolbarth Cymru i'r Mud a Byddar, Cymdeithas Ranbarthol y Mud a Byddar dros Gymru a Chlwb Busnes Abertawe. Urddwyd ef yn farchog yn 1938 a chydnabyddwyd ei gysylltiad agos ag Urdd S. Ioan trwy ei benodi'n llywydd Cyngor Abertawe o Urdd S. Ioan, F.I.C.S., a'i urddo'n Farchog S. Ioan. Gwnaed ef yn Farchog Dosbarth 1 Urdd Dannebrog (Denmarc) yn 1933; derbyniodd Groes Aur Urdd Brenhinol Sior I (Gwlad Groeg) yn 1938, a dyfarnwyd iddo Urdd Chevalier de la Légion d'Honneur gan Ffrainc yn 1949. Bu farw 23 Hydref 1968.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.