JENKINS, ALBERT EDWARD (1895 - 1953), chwaraewr rygbi

Enw: Albert Edward Jenkins
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1953
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr rygbi
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gareth W. Williams

Ganwyd 11 Mawrth 1895 yn Llanelli, Caerfyrddin, a daeth yn eilun i'r dref. Blodeuodd ei alluoedd ar y cae rygbi pan chwaraeai fel cefnwr dros y ' 38th Division ' yn ystod Rhyfel Byd I. Fel canolwr y daeth i amlygrwydd dros glwb Llanelli. Yn ystod yr 1920au Llanelli oedd clwb mwyaf llwyddiannus y cyfnod, gyda gwŷr fel Dai John, Ernie Finch ac Ifor Jones yn ei rengoedd, ond ' Albert ' a'u hysbrydolodd. Er nad oedd yn dal (5 troedfedd 8 modfedd) pwysai dros ddeuddeg stôn a hanner. Meddai ar gyflymder sydyn, tacl nerthol, a chic fel mul o'r llaw ac o'r llawr. Gallai amseru ei bas i'w asgellwr yn berffaith. Ni bu erioed yn hunanol ond gallai newid cwrs gêm ar ei ben ei hun. Enillodd 14 o gapiau dros Gymru rhwng 1920 ac 1928. Ffolineb dewiswyr y cyfnod oedd yn gyfrifol am ei fethiant i ennill llawer mwy. Tybid yn gyffredinol, ar y pryd ac ers hynny, mai ef oedd un o'r canolwyr gorau a gafodd Cymru erioed. Capteiniodd Gymru ar ei ymddangosiad rhyngwladol olaf, yn 33 oed yn erbyn Iwerddon yn 1928. Gwrthododd fwy nag un cynnig i ymuno â rygbi 'r gynghrair. Bu farw 7 Hydref 1953, ac anrhydeddwyd ef ag angladd dinesig gan fwrdeistref Llanelli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.