Ganed 31 Ionawr 1910 yn y Gilfach, ger Bargod, Morgannwg, yr ail o bum plentyn Daniel Robert John (m. 1948), gweinidog (B) a'i briod, Susannah Mary (ganwyd Rees), y ddau o ardal Pen-y-groes ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Bu'r tad yn weinidog eglwysi yn y Bargod, Porth (Rhondda), Abercynon ac eglwys hynafol Rhydwilym. Addysgwyd Walter P. John yn ysgol ramadeg Aberpennar, coleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd (1928-34), gan raddio yn y celfyddydau a diwinyddiaeth. Tra oedd yn yr ysgol ramadeg ef ac R. E. Griffith a sefydlodd y gangen gyntaf o Urdd Gobaith Cymru yn ne Cymru, yn Abercynon.
Cychwynnodd ei weinidogaeth yn y Tabernacl, Pontarddulais, ym Medi 1934 ac yn Hydref 1938 symudodd i ofalu am eglwys Castle Street, Llundain. Bu yno hyd ei farwolaeth ar 15 Mawrth 1967. Ymbriododd yn 1940 â Nansi, unig blentyn Morgan A. Jones, gweinidog (B) yn Hendy-gwyn ar Daf ac wyres Daniel Jones, ei ragflaenydd. Daeth Walter P. John i amlygrwydd yn bur gynnar yn ei yrfa fel pregethwr diwylliedig a choeth a galw mawr am ei wasanaeth yng ngwyliau pregethu ei enwad ei hun ac enwadau eraill yng Nghymru a Lloegr. Meistrolodd hefyd gelfyddyd darlledu, ac ef oedd cyflwynydd cyntaf Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Yr oedd yn rhyddfrydol ei safbwynt ac yn fawr ei sêl dros gyd-ddeall a chydweithrediad rhwng y cyrff crefyddol yng Nghymru. Bu'n gydawdur (â Gwilym T. Hughes) Hanes Castle Street a'r Bedyddwyr Cymraeg yn Llundain (1959), ac wedi ei farwolaeth casglwyd rhai o'i bregethau a'i ysgrifau yn gyfrol, Rhwydwaith Duw (1969).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.