JONES, GEORGE DANIEL (1877 - 1955), argraffydd

Enw: George Daniel Jones
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1955
Priod: Dorothy Jones
Rhiant: Margaret Jones (née Rees)
Rhiant: Daniel Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Jenkins

Ganwyd 1877 yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, yn fab i Daniel a Margaret Jones, Red Lion Fach. Prentisiwyd George i T. L. Davies, Gwasg Caxton yn y dref honno ac yna aeth i wella i grefft gyda gwasg flaengar yng Nghaerloyw. Ymhen ychydig flynyddoedd, o dan gymhelliad J. Gwenogvryn Evans, ymunodd â Gwasg Prifysgol Rhydychen. Yn fuan dechreuodd y ddau gydweithio i gynhyrchu ar wasg law rai o'r cyfrolau cyntaf o Hen Destunau Cymraeg a gyhoeddwyd yn breifat gan Gwenogvryn. Yn niwedd Medi 1909 symudodd i Aberystwyth i gychwyn gwasg y Llyfrgell Genedlaethol newydd ac arhosodd yno hyd Medi 1925 pan dderbyniodd swydd goruchwyliwr Gwasg y Cambrian News yn y dref.

Yn gynnar yn y 1930au (1935 efallai) prynodd The Montgomeryshire Printing and Stationery Co. yn y Drenewydd, ac ar dro bu'n gyfrifol am gysodi peth gwaith i Wasg Gregynog. Yn ystod y cyfnod hwn collodd ei unig fab a merch oedd yn eu harddegau. Ymddeolodd i Aberystwyth ar ddiwedd Rhyfel Byd II a bu'n gweithio'n achlysurol i'r Cambrian News hyd o fewn ychydig i'w farwolaeth 2 Medi 1955. Claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus y dre. Gadawodd weddw, Dorothy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.