Fe wnaethoch chi chwilio am Cynan

Canlyniadau

JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (‘Cynan’; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr

Enw: Cynan (albert) Evans Jones
Ffugenw: Cynan
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1970
Priod: Menna Meirion Jones (née Jones)
Priod: Ellen Jane Jones (née Jones)
Rhiant: Hannah Jane Jones (née Evans)
Rhiant: Richard Albert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, dramodwr ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 14 Ebrill 1895, yn fab i Richard Albert Jones a Hannah Jane (ganwyd Evans), Pwllheli, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol ac ysgol sir Pwllheli, a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd yn 1916. Yn yr un flwyddyn ymunoddd â'r R.A.M.C., a bu'n gwasanaethu yn Salonica ac yn Ffrainc, fel aelod o'r 86th Field Ambulance ac yn ddiweddarach fel caplan. Ar ôl y rhyfel aeth i Goleg y Bala, ac yn 1920 ordeiniwyd ef a'i sefydlu yn weinidog yr eglwys Bresbyteraidd ym Mhenmaen-mawr. Yno y bu hyd 1931, pan benodwyd ef yn diwtor yn Adran Allanol coleg Bangor, gyda chyfrifoldeb arbennig am Ynys Môn. O 1936 hyd nes ymddeol yn 1960 bu'n diwtor staff, a'i bynciau oedd drama a llenyddiaeth Gymraeg. Ond daliodd i bregethu yn gyson ar hyd ei oes.

Daeth Cynan yn amlwg iawn ym mywyd Cymru oherwydd ei gyswllt â'r Eisteddfod Genedlaethol Cymerodd y ffugenw Cynan fel aelod o Orsedd y Beirdd, ac wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef, a defnyddiodd yntau'r enw pan urddwyd ef yn farchog. Etholwyd ef yn gofiadur yr Orsedd yn 1935, ac yn gyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937. Ef oedd yr archdderwydd o 1950 hyd 1954 ac o 1963 hyd 1966, yr unig dro hyd hynny i neb ddal y swydd hon ddwywaith. Yn fuan ar ôl ei benodi'n gofiadur dechreuodd ddiwygio'r Orsedd. Fel gŵr a chanddo lawer iawn o synnwyr drama a phasiant gwelodd fod seremonïau'r Orsedd yn bethau a allai fod yn atyniadol iawn i'r tyrfaoedd. Aeth ati i ddwyn gwell trefn ar y gweithrediadau a'u gwneud yn fwy urddasol, gan ddwyn i mewn rai seremonïau newydd, fel y ddawns flodau. Ymwadodd â phob honiad am hynafiaeth yr Orsedd a'i chyswyllt â'r derwyddon, gan gydnabod yn agored mai dyfais a chreadigaeth Iolo Morganwg ydoedd. Llwyddodd i gael llawer o aelodau newydd, ac yn eu plith rai gwŷr academig. Yn 1935 dechreuwyd ar yr addrefnu a ddug i fod Lys a Chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu i Cynan ran amlwg yn y gwaith. Yn 1967 etholwyd ef yn llywydd y Llys.

Bu'n amlwg iawn hefyd fel cystadleuydd yn yr Eisteddfod. Yn 1921 enillodd y goron yng Nghaernarfon am y bryddest ‘Mab y Bwthyn’, cerdd am fachgen o Gymro yn rhyfel 1914-18. Gan mor amserol oedd y testun ac mor syml ac uniongyrchol oedd y mynegiant o ran mydr ac o ran arddull, daeth y bryddest yn dra adnabyddus a chymeradwy, yn fwy felly, efallai, nag unrhyw bryddest arall, na chynt nac wedyn. Yr oedd cynnwys yr ail bryddest fuddugol, ‘Yr ynys unig’ (yr Wyddgrug 1923), sef stori cenhadaeth y Tad Damien at y gwahangleifion, yn ei gwneud hithau'n gerdd oblogaidd, a'r drydedd ‘Y Dyrfa’ (Bangor 1931), cerdd am gêm rygbi, yn beth cwbl newydd yn yr iaith. Yr oedd dylanwad beirdd Saesneg cyfoes, yn enwedig John Masefield a J. C. Squire, ar y pryddestau eisteddfodol, ond gallodd Cynan gymathu'r dylanwadau hyn mor llwyr nes peri fod rhin gwbl Gymreig i'w gerddi ef ei hun. Yn 1924 ym Mhont-y-pŵl enillodd Cynan y gadair genedlaethol am y gerdd ‘I'r Duw nid adwaenir’, sy'n arbennig ac unigryw am mai ar y mesur tri thrawiad y canwyd hi; ni roed y gadair am gerdd ar y mesur hwn na chynt nac wedyn. Bu'n beirniadu lawer gwaith ar y gwahanol gystadlaethau barddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddodd Cynan gasgliadau o'i waith barddonol fel y canlyn: Telyn y nos (1921); Y Tannau coll, pryddest ail-orau Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922; Caniadau Cynan (1927); Cerddi Cynan, y casgliad cyflawn (1959), yn cynnwys y cerddi eisteddfodol, baledi, telynegion, a chyfieithiadau o weithiau beirdd Saesneg (rhai ohonynt heb eu nodi). Telynegol yw naws arddull y bardd, a'r mynegiant yn gwbl uniongyrchol a digwmpas fel a ddaeth yn gymeradwy gan holl feirdd telynegol dechrau'r 20fed ganrif. Seiliwyd llawer o'i gerddi ar ei ymateb i Ryfel Byd I ac ar ei brofiad ef ei hun ohono, ac i'r gwrthwyneb cafodd gryn ysbrydiaeth yn hedd a llonyddwch gwlad Llŷn. Y mae i'r elfen storïol fwy o le yn ei waith ef nag yng ngwaith yr un bardd Cymraeg arall; canodd nifer o faledi, a storïau ar gân yw ei bryddestau. Yn 1946 cyhoeddodd un rhamant ryddiaith fer, Ffarwel weledig, am fywyd ym Macedonia.

Gwnaeth Cynan lawer iawn o waith gyda'r ddrama am flynyddoedd. Yn 1931 enillodd y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y ddrama hir, sef Hywel Harris, a chafodd gomisiwn i ysgrifennu drama ar gyfer eisteddfod 1957, sef Absalom fy mab. Cyfaddasodd ddwy ddrama o'r Saesneg, Lili'r Grog (John Masefield), a Hen ŵr y mynydd (Norman Nicholson), a berfformiwyd gyntaf ar daith gan gwmni'r Genhinen yn 1949, a Chynan ei hun yn gyfarwyddwr. Ond ei gyfraniad mwyaf i'r ddrama yng Nghymru oedd yr hyn a wnaeth trwy ddarlithio ar y pwnc i'w ddosbarthiadau allanol, ac mewn gwyliau drama, trwy gyfarwyddo cwmnïau ac actio 'i hun rai gweithiau, a thrwy feirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cystadlaethau cyfansoddi a hefyd yn y cystadlaethau perfformio. Bu am ychydig amser yn athro i actorion ifainc mewn cwrs a drefnwyd gan Gwmni Theatr Cymru. Ysgrifennodd a chynhyrchodd rai pasiantau ar raddfa fawr, gan gychwyn mor gynnar ag 1927 gyda phasiant hanesyddol yng nghastell Conwy, a'i ddilyn gan ‘Basiant y Newyddion Da’ yng nghastell Caernarfon yn 1929 a ‘Rhyfel a Heddwch’ yn yr un lle yn 1930. Yn 1931 penodwyd ef yn ddarllenydd dramâu Cymraeg ar ran yr Arglwydd Siambrlen i sicrhau eu bod yn unol â gofynion y gyfraith, a daliodd i wneud y gwaith nes diddymu sensoriaeth yn 1968.

Dyfarnwyd iddo radd D.Litt. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1961, a chafodd ryddfreiniad Pwllheli, tref ei gartref, yn 1963. Penodwyd ef yn C.B.E. yn 1949, a dyrchafwyd ef yn farchog yn 1969. Priododd Ellen J. Jones o Bwllheli yn 1921, a bu mab a merch o'r briodas. Bu ei wraig farw yn 1962, ac yn 1963 priododd ef Menna Meirion Jones o'r Valley, Môn. Bu Cynan farw 26 Ionawr 1970.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau