JONES, THOMAS HENRY (HARRI; 1921 - 1965), darlithydd a bardd

Enw: Thomas Henry Jones
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1965
Priod: Madeline Jones (née Scott)
Rhiant: Ruth Jones (née Teideman)
Rhiant: Llywelyn Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: darlithydd a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 21 Rhagfyr 1921 yng nghwm Crogau, Llanafan Fawr, Brycheiniog, yr hynaf o bum plentyn Llywelyn Jones, goruchwyliwr gwaith ffordd a Ruth (ganwyd Teideman) ei wraig. Mynychodd ysgol Llanafan, bum milltir i ffwrdd, ac ysgol sir Llanfair-ym-Muallt. Yn 1939 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond ymunodd â'r llynges yn 1941 ac ailymaflyd yn ei astudiaethau yn 1946. Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1947 ac M.A. yn 1949. Priododd, 1946, Madeline Scott, crochennydd adnabyddus, a bu iddynt dair merch.

Ni chafodd waith hyd 1951 pryd y dechreuodd ddysgu yn ysgol dechnolegol Dockyard, Portsmouth, a darlithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr gyda'r hwyr. Heb fawr o obaith am waith prifysgol ym Mhrydain ymfudodd i Awstralia yn 1959 i fod yn ddarlithydd yng Ngholeg (Prifysgol yn fuan wedyn) Newcastle, lle y gwnaeth enw iddo'i hun fel ysgolhaig a bardd o fri; eto i gyd, câi adegau o iselder ysbryd, ac yfai'n drwm. Byth ers dyddiau ysgol, ysgrifennai ac adroddai farddoniaeth, a chyhoeddid ei waith yn Dock Leaves, Life and letters, Dublin Magazine, etc.; a Quadrant a Meanjin yn Awstralia. Cyhoeddodd dair cyfrol o'i farddoniaeth, The enemy in the heart (1957), Songs of a mad prince (1960), a The beast at the door (1963); astudiaeth ar Dylan Thomas (1963); a bu'n olygydd cylchgrawn astudiaethau llenyddiaeth Americanaidd yn Awstralia. Amlygodd feistrolaeth ar iaith a datblygodd ei dalent arbennig mewn caneuon a werthfawrogid yn Awstralia a thu hwnt. Gadawodd y profiad o golli cyfeillion ar y mòr adeg rhyfel a bywyd caled bore oes argraff ddofn arno, a rhaid oedd cyffesu ei deimladau cythryblus ar gân. Sylweddolai ei golled am na fedrai'r Gymraeg - iaith ei dad - a llethid ef gan hiraeth am ardal ei faboed ac ymdeimlad o euogrwydd ac unigrwydd ingol hyd yn oed yn y munudau anwylaf yng nghwmni ei gymar, a cheisiai beunydd adnabyddiaeth ohono'i hun. Trefnodd ysgol ar farddoniaeth a drama fodern ym mis Ionawr 1965, ond cyn diwedd y cwrs cafwyd ef wedi boddi mewn pwll nofio glan mòr ar 30 Ionawr Dychwelwyd ei lwch i Gymru a'i gladdu ym mynwent Llanfihangel Brynpabuan. Cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth gasgliad o'i ganeuon alltud, The colour of cockcrowing (1966), a The Collected Poems of T. Harri Jones (1977).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.