Ganwyd 24 Ionawr 1915, yn 12 Caradog Place, Deiniolen, Sir Gaernarfon, yn fab Hugh Edward Jones, ymgymerwr ac adeiladydd, ac Elizabeth ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol y cyngor, Deiniolen, ysgol sir Brynrefail, y Coleg Normal, Bangor, a derbyniwyd ef i Goleg Bala-Bangor 29 Medi 1938. Graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1941 ac yn M.A. yn 1953. Ni orffennodd ei gwrs diwinyddol gan iddo dderbyn galwad o Salem, Porthmadog, a chael ei ordeinio yno 21 Gorffennaf 1943. Symudodd i Jerusalem, Porth Tywyn, a'i sefydlu yno ar 17 Tachwedd 1954 ac yno y bu hyd ei farw yn ysbyty Bangor, o ganlyniad i drawiad disymwth ar y galon, 3 Mehefin 1964. Yr oedd yn bregethwr gyda galw mawr am ei wasanaeth a pherthynai i draddodiad y pregethu barddonol ac eglurebol.
Blodeuodd yn gynnar fel bardd gan ennill gwobrau lawer mewn eisteddfodau lleol cyn ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi (1942) am ei bryddest ar 'Ebargofiant'. Syml, cynnil, crefftus a thelynegol oedd prif nodweddion ei ganu. Cyhoeddodd Hanes Eglwys Annibynnol Jerusalem, Burry Port, 1812-1962 (1962) ac ar ôl ei farwolaeth cyhoeddwyd sylwedd ei draethawd M.A., Y Soned yn Gymraeg hyd 1900 (1967). Priododd, 14 Awst 1946, â Ffion Mai, merch David Thomas, Bangor (1880 - 1967), a bu iddynt ddau fab.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.