Ganwyd 12 Mawrth 1892 yng Ngheinewydd, Ceredigion, yr ieuangaf o ddau blentyn y cyfrwywr Thomas Jones ac Elizabeth, merch John Williams, Pendre, Llwyndafydd.
Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Ceinewydd, ysgol ganolraddol Aberaeron (1906-10); bu'n ddisgybl athro cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1911-14), lle y daeth yn ddisgybl i'r athro enwog Hermann Ethé. Graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd mewn Lladin, ac yn 1919 enillodd radd M.A. gyda thraethawd ar ' The native Italian element in early Roman religion '. Bu'n dysgu am naw mlynedd mewn ysgolion gramadeg yn Lloegr : Stockton-on-Tees (1914-15); Whitchurch, Sir Amwythig (1915-18); ysgol Ryleys, sir Gaer (1918-20); ysgol Syr Thomas Rich, Caerloyw (1921-23). Dilewyd Lladin o'r cwrs dysgu yn yr ysgol yng Nghaerloyw, a chollodd yntau ei swydd o'r herwydd. Gan ei fod ychydig yn drwm ei glyw penderfynodd roddi'r gorau i ddysgu, a dychwelyd i'r adran glasuron yn Aberystwyth, i wneud ymchwil pellach. Yn 1926 penodwyd ef i swydd ceidwad cynorthwyol yn adran llyfrau printiedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'i ddyrchafu'n ddirprwy geidwad yn 1928 a bu'n bennaeth yr adran o 1950 hyd ei farw. Adwaenid ef fel llyfryddwr medrus, medr a ddeilliai yn ddiau o'i ysgolheictod a'i ddisgyblaeth yn y clasuron. Priododd Elizabeth Mary, merch Isaac Davies, Ceinewydd, ym mis Hydref 1927, ond ni bu plant o'r briodas.
Yr oedd ganddo ddawn arbennig i ddysgu ieithoedd, a bu ei wybodaeth drylwyr o Ladin a Groeg yn sail gadarn iddo ddysgu ieithoedd eraill, megis Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg. Meddai ar wybodaeth o Almaeneg, Rwseg a Phwyleg, a medrai ddarllen y mwyafrif o'r ieithoedd Slafaidd, Scandinafaidd, Hwngareg, ac wrth gwrs yr ieithoedd Celtaidd. Ymddiddorai yn yr ieithoedd dwyreiniol, megis Perseg ac Arabeg, ac fe'i hysgogwyd i ddysgu Sanscrit a Pali er mwyn darllen llenyddiaeth grefyddol yr India yn yr iaith wreiddiol. Ei feistrolaeth o Sanscrit a'i galluogodd i gyfieithu'r Mahavastu, ysgrythurau sect hynaf Bwdistiaeth, i'r Saesneg, ac a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol dan nawdd y Pali Text Society yn 1949-56. Yn ôl Miss I.B. Horner, ysgrifennydd y Gymdeithas, mae'r cyfieithiad cyntaf hwn i unrhyw iaith yn gyfraniad arbennig i astudiaethau Bwdistiaeth; llwyddodd i orchfygu ac egluro anawsterau'r testun, a'i drosi i Saesneg llyfn a choeth.
Cyfrannodd erthyglau i gylchgronau Cymreig ar astudiaethau Celtaidd, crefydd a llyfryddiaeth. Cyhoeddodd ei gyfieithiadau i'r Gymraeg o storïau byrion o'r Llydaweg a'r Rwseg yn Yr Efrydydd, 1935 a'r Haul, 1945, ac o ddywediadau Perseg yn Yr Efrydydd, 1934. Ysgrifennodd erthyglau i'r Haul (1942-44) ar ' Emynau Lladin di-enw yn yr Emyniadur (1897) ', i'r Bywgraffiadur, a rhagymadrodd i'r casgliad o ddiarhebion Cymreig yn y llyfr Racial proverbs … a olygwyd gan S.G. Champion (1938).
Ymlaciai o'i waith drwy ddarllen ambell nofel neu chwarae gwyddbwyll. Hoffai wylio pêl-droed a chriced ac yr oedd yn chwaraewr bowls brwd. Yr oedd ei fyddardod wedi gwneud cwmnïa'n anodd iddo, ac felly trodd at y diddordebau yma lle nad oedd y clyw yn bwysig. Yr oedd yn ŵr bonheddig, cyfeillgar a diymhongar, ac enynnai barch y neb a'i hadnabu. Bu farw ei wraig ar y 29 Gorffennaf 1955 yn 64 oed, a chyflwynodd y drydedd gyfrol o'r Mahavastu iddi mewn gwerthfawrogiad o'i hamynedd a'i hanogaeth iddo yng nghyfnod y cyfieithu. Bu yntau farw yn sydyn ar ganol chwarae gwyddbwyll 20 Chwefror 1957, ychydig fisoedd cyn cyrraedd oedran ymddeol, a chladdwyd ef ym mynwent capel (A), Maen-y-groes, ger Ceinewydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.