JONES, ROBERT LLOYD (1878 - 1959), ysgolfeistr, llenor plant a dramodydd

Enw: Robert Lloyd Jones
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1959
Priod: Sarah Jones (née Roberts)
Priod: Elin Alice Jones (née Jones)
Rhiant: Elizabeth Jones (née Williams)
Rhiant: Robert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, llenor plant a dramodydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd 7 Rhagfyr 1878 ym Mhorthmadog, Caernarfon, y chweched o'r deg plentyn a aned i Robert Jones, master mariner, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Williams). Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Porthmadog, Minffordd a Phenrhyndeudraeth, ysgol uwchradd Blaenau Ffestiniog, ysgol ramadeg y Bala a'r Coleg Normal, Bangor (1899-1901). Bu'n athro yn ei hen ysgol ym Mhorthmadog i ddechrau ac wedyn daeth yn brifathro yn olynol ar ysgolion elfennol Tremadog (1906-13), Trefor (1913-28) a Lloyd Street, Llandudno (1928-44). Cymerodd ddiddordeb dwfn mewn materion addysgol ar hyd ei oes a daliodd nifer o swyddi yn y gangen sirol o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Bu'n aelod am nifer o flynyddoedd o fwrdd llywodraethwyr ysgol John Bright, Llandudno.

Cychwynnodd lenydda 'n gynnar gan ennill llawer mewn eisteddfodau lleol a chymaint â 13 o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cofir amdano'n bennaf fel awdur y nofelau antur canlynol i blant: Ynys y trysor (1925); Plant y Fron (1926); Atgofion hen forwr (1926); Capten (1928); Mêt y Mona (1929); Dirgelwch y cwm (1929); Ogof yr ysbïwyr (1933) ac Ym Môr y De (1936). Dysgodd lawer am fywyd morwrol oddi wrth ei dad a threuliodd lawer o'i blentyndod ar gei Porthmadog yn gwylio'r llongau a holi'r morwyr. Darllenodd yn awchus weithiau R. L. Stevenson, Ballantyne, Henty ac eraill a daeth hyn oll yn ddeunydd crai i'w nofelau yntau maes o law. Cyfrannodd hefyd i Cymru'r Plant a chyhoeddiadau enwadol megis Y Drysorfa a'r Goleuad. Ar y pryd llanwodd ei nofelau a'i storïau fwlch mawr ym myd ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer plant. Cyhoeddodd yn ogystal 24 o ddramâu poblogaidd, y mwyafrif ohonynt yn rhai byr, un-act yn dwyn y teitlau canlynol: Y pymtheg mil, Y walet, Y census, Nos Sadwrn, Y doctor, Yr etifedd, Y basgedi, Dau ben blwydd, Wyt ti'n cofio?, Arian modryb, Y troseddwr, Anghofio, Brawd a chwaer, Croeso, Y drws agored, Gweinidog Tabor, Y gwir a'r golau, Pan oeddym fechgyn, Rhiannon, Safle, Y Scwlmis, Santa Clòs a'i fab, Y tair chwaer, Teulu'r Gelli. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ffurfio Cymdeithas Ddrama'r gogledd, a oedd i ffynnu fel cangen o Undeb y Ddrama Gymraeg, yng Nghaernarfon yn 1929. Gwasanaethodd droeon fel beirniad yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Priododd ddwywaith: (1) yn 1906 ag Elin Alice Jones, Minffordd (bu farw 1942), a ganed tri mab iddynt; (2) yn 1944 â Sarah Roberts, Bethesda (bu farw 1962). Bu farw yn Nhre-garth 3 Chwefror 1959 a chladdwyd ef ym mynwent Coetmor, Bethesda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.