Ganwyd yn y Tŷ-gwyn, Rhiw-siôn, Cwm-cou, Ceredigion, ger Castellnewydd Emlyn, 23 Chwefror 1880, yn fab i David a Rebecca Jones. Addysgwyd ef yn ysgol Frytanaidd Tre-wen. Dechreuodd bregethu yn 16 oed yng nghapel Tre-wen dan weinidogaeth David Evans (ar ôl hynny ei frawd-yng-nghyfraith). Cafodd addysg bellach yn ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac wedyn yn ysgol yr Hen Goleg Caerfyrddin a'r Heath, Pontypridd. Fe'i derbyniwyd i goleg diwinyddol Aberhonddu yn 1897. Graddiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1902. Dychwelodd i Aberhonddu i wneud diwinyddiaeth. Urddwyd ef i'r weinidogaeth Gristnogol yn 1905 yn eglwys gynulleidfaol Saesneg Stourbridge. Gyda marw ei fam yn 1909 cyflwynodd ei hun i Gymdeithas Genhadol Llundain, gyda'r bwriad o fynd i Tsieina, eithr teimlai'r Gymdeithas fod angen gŵr o'i gymwysterau ef ym Madagascar, ac efallai hefyd gan gofio hen gysylltiad Cymru â'r genhadaeth yno. Bu am dymor byr yn Ffrainc yn dysgu Ffrangeg. Cynhaliwyd ei gyfarfod neilltuo yn 1910 yng nghapel Lyndhurst, Hampstead, a glaniodd ym Madagascar ddiwedd Tachwedd y flwyddyn honno.
Ei faes cyntaf oedd Ambohimanga, yr hen brifddinas. Yno bu'n gofalu am gylch o wyth eglwys ac ysgol. Priododd 1 Mai 1912 yn Eglwys Goffa Faravohitra, Antananarivo â Hilda Victoria Smith, aelod o Eglwys Loegr yn Watford, a hwyliasai allan ym Mawrth i'w briodi. Bu iddynt bedair merch. Symudwyd ef i Ambopotsy yn 1915 i ofalu am gylch eang o eglwysi a darlithio dri bore o'r wythnos yn y Coleg Diwinyddol Unedig. Daeth ei seibiant cyntaf yng Nghymru ar ben deng mlynedd. Wedi iddo ddychwelyd i'r ynys fe'i symudwyd i Antsihanaka, i ailgychwyn y gwaith cenhadol y bu'n rhaid ei gau pan ddaeth y Ffrancod a meddiannu'r wlad, a sefydlu athrofa i weinidogion yn Imerimandroso ar gyfer y gogledd. Yr oedd ysbyty cenhadol wedi ei agor y flwyddyn flaenorol. Hefyd, gofalai am gylch o tua 70 o eglwysi yn ardal llyn Alaotra. Prynwyd bad modur i'w helpu gyda theithio gan chwiorydd eglwysi Cymraeg yr Annibynwyr yng nghylch Abertawe (ac fe'i galwyd Abertawe), ond methiant fu'r cynllun oherwydd y tyfiant toreithiog yn y dŵr bâs. Yn 1927 derbyniodd radd M.A. gan Brifysgol Cymru am draethawd ar ' Eschatoleg yr Eglwys Geltaidd '. Yn ystod ei absenoldeb yn 1926 llwyr ddinistriwyd yr orsaf genhadol yn Imerimandroso gan gorwynt enbyd. Ar ôl yr ailadeiladu cychwynnodd yno goleg diwinyddol i feithrin gweinidogion, yn lle'r hen athrofa, a phenodwyd tri athro brodorol i'w gynorthwyo a thair chwaer i hyfforddi'r gwragedd. Cyrchai myfyrwyr yno o cyn belled a Mandritsara, 200 milltir i ffwrdd dros y mynyddoedd. Yn 1930 symudwyd ef i fod yn brifathro'r coleg diwinyddol unedig yn y brifddinas, ac i ofalu am gylch eang o eglwysi mewn tair ardal. Ar ôl dod i Brydain am seibiant yn 1939 ni chaniatawyd iddo ddychwelyd, oherwydd y rhyfel, tan 1944. Yn 1947 fe'i cafodd ei hun yng nghanol helyntion a chwerwder y gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Ffrainc. Bellach yr oedd wedi pasio oed ymddeol, ar ôl 38 mlynedd o wasanaeth caled ac ymroddedig ar yr ynys. Bu farw, ym mhen tair blynedd ar ôl gadael yr ynys, ar 17 Mehefin 1951. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys gynulleidfaol Bushey. Ar 13 Mehefin 1956 dadorchuddiwyd tabled goffa iddo gan ei briod yng nghapel Trewen.
Gŵr hynaws ydoedd ac yn llawn hiwmor, yn fonheddig ei ffordd ac yn hollol ymroddedig i'w waith. Meddai gryn lawer o ddawn y llenor a'r bardd. Cyfansoddodd lawer o emynau yn y Falagaseg, a chyfieithiodd eraill o'r Gymraeg a'r Saesneg. Ysgrifennodd lyfr ar ddiwinyddiaeth fugeiliol yn y Falagaseg, a gafodd gylchrediad eang, a hefyd ddau esboniad ar y Salmau. Cyfrannodd yn helaeth i gylchgronau eglwysig ym Madagascar. Daeth dau lyfr ar Fadagascar ar gyfer plant o'i law, Ar lannau'r Llyn Mawr (1929) ac Am dro i Fadagascar (1950). Yn 1942 cyfrannodd erthygl i'r chwarterolyn Religion ar y pwnc ' Primitive cults and beliefs in Madagascar '. Anerchodd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Rhydaman (1927) a Chaernarfon (1949).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.