Ganwyd 14 Chwefror 1891, ym Mlaenau Gwent (Blaina), Mynwy, yn fab i John Rees Jones, cigydd, a Mary Jones (ganwyd Parry) ei wraig. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol sir Abertyleri yn 11 oed, ond gadawodd yr ysgol ar òl 18 mis oherwydd amgylchiadau ariannol y teulu, ac aeth i weithio i'r lofa. Ar ôl astudio mewn dosbarthiadau nos, a'i benodi'n llyfrgellydd yn Sefydliad y Glowyr yno, ymunodd â chymdeithas gorawl y Blaenau, a daeth i sylw Norman McLeod, athro cynhyrchu llais. Penderfynodd ddilyn gyrfa broffesiynol fel datganwr tenor, a chyda help yr Arglwydd Rhondda ac eraill, aeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain i astudio gydag Albert Visetti, Thomas Frederick Dunhill a Charles Billiers Stanford. Yn ddiweddarach, bu'n astudio canu yn yr Eidal (gyda Colli), yn yr Almaen (gyda Charles Webber) ac yn Lloegr (gyda John Coates). Bu ar daith yn T.U.A. a Chanada, 1913-15, ac yr oedd yn un o'r rhai a achubwyd pan suddwyd y llong Lusitania ym mis Mai 1915. Yn dilyn rhyfel 1914-18 datblygodd yn un o gantorion mwyaf amlochrog Llundain, a bu galw mawr am ei wasanaeth. Penodwyd ef yn brif denor gyda chwmni opera D'Oyly Carte (1915) a chyda chwmni opera Carl Rosa (1920), a chanodd amryw o'r prif rannau gyda'r Cwmni Opera Cenedlaethol Prydeinig (1922-28). Ymddangosodd hefyd yn yr Old Vic ac yn Sadler's Wells yn ystod y 1920au a'r 1930au, ac erbyn iddo ymuno â'r bwrdd rheoli yn Covent Garden yn 1955, cawsai'r anrhydedd o ganu yn y Tŷ Opera Brenhinol yn ystod 19 o dymhorau cydwladol yno. Bu hefyd yn aelod blaenllaw o gwmni opera Syr Thomas Beecham, ac fe'i gwahoddwyd i ganu yng nghyngherddau promenâd Henry Wood am 27 o dymhorau'n olynol. Canodd hefyd yn y prif wyliau yn Llundain ac ar y cyfandir ar ôl 1919, gan gynnwys gwyliau Amsterdam, Copenhagen ac Oslo (1945-54). Anrhydeddau eraill a ddaeth i'w ran oedd cael ei ddewis yn brif denor ffestifal canmlwyddiant Beethoven, 1927, a ffestifal canmlwyddiant Schubert, 1928. Etholwyd ef yn gymrawd er anrhydedd o'r Coleg Cerdd Brenhinol, Ysgol Gerdd y Guildhall a Choleg Cerdd y Drindod, ac yn 1962 dyfarnwyd iddo'r O.B.E. am ei wasanaeth nodedig i gerddoriaeth. Treuliodd gyfnod fel athro yn Ysgol Gerdd y Guildhall ac yng Ngholeg Cerdd y Drindod ar ôl ymddeol fel datganwr. Meddai ar gof eithriadol o dda, ac erbyn ei farw dywedid ei fod wedi canu mewn perfformiadau o 70 o operâu a 80 o oratorïau. Yr oedd wedi priodi yn 1917 â Hilda Dorothy Morris, Cirencester, a bu iddynt un mab. Bu farw yn Llundain, 26 Rhagfyr 1963.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.