Ganwyd 21 Tachwedd 1878 yn Rock House, Tre-fîn, Penfro, mab Edward a Margaret Jones. Bu farw'i dad pan oedd yn bum mlwydd oed, a dychwelodd ei fam i'w chynefin yn Nanhyfer. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Nanhyfer, ac yn ysgolion gramadeg Llandysul a Chastellnewydd Emlyn. Dechreuodd bregethu yn 15 mlwydd oed yng Ngethsemane, Nanhyfer, ac aeth i'w baratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y clasuron. Aeth wedyn i goleg Trefeca lle graddiodd mewn diwinyddiaeth. Cafodd radd M.A. Prifysgol Cymru am draethawd ar gystrawen Groeg y Testament Newydd. Ordeiniwyd ef yn 1904, a'r flwyddyn ddilynol priododd Gwendolen Lewis, Abergwaun; ganwyd mab a dwy ferch o'r briodas. Bu'n gweinidogaethu yn eglwysi Pen-towr, Abergwaun (1903-06), Pen-ffordd a'r Gwastad (1906-10), Jerusalem, Pontrhyd-y-fen (1910-12), Bethlehem, Treorci (1912-15) a Phenffordd a'r Gwastad (1915-26). Sefydlodd eglwys i'r MC yng Nghlunderwen y tro cyntaf y bu ym Mhen-ffordd. Penodwyd ef, yn 1926, yn brifathro coleg Trefeca, a bu yno hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn athro da a llwyddiannus, a chyflawnodd waith mawr yn Nhrefeca ynglŷn â'r adeiladau hynafol yno; casglodd filoedd o bunnoedd i sefydlu cronfa ar gyfer hynny. Cyhoeddodd werslyfr ar Efengyl Marc - yn Gymraeg ac yn Saesneg - yn 1912, a chyfrol ddwyieithog, Coleg Trefeca, 1842-1942, yn 1942. Ysgrifennodd yn achlysurol i'r Goleuad, Y Lladmerydd, a Chylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Bu'n ffigur amlwg ym mywyd ei gyfundeb, a bu'n llywydd Sasiwn y De yn 1945. Bu farw yn nhŷ capel y Dyffryn, Tai-bach, lle'r oedd yn pregethu dros y Sul, 3 Gorffennaf 1955, a chladdwyd ei weddillion yn Abergwaun.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.