JONES, RICHARD ('Dofwy '; 1863 - 1956), prydydd gwlad

Enw: Richard Jones
Ffugenw: Dofwy
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1956
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd gwlad
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd yn y Fron-goch, plwyf Cemais, Trefaldwyn, 3 Mai 1863. Ei unig addysg oedd yn ysgol Dòl-y-clwyd, Cemais. Prentisiwyd ef yn saer coed, ond yn ugain oed aeth gyda'i frawd i ffermio yn Cwmeidrol, Cwmlline, ac yno y bu am weddill ei oes, gan briodi a magu pedwar o blant. Yr oedd yn gerddor a chanwr da, ond fel bardd yr ystyrid ef yn ei ardal. Dysgodd y cynganeddion yn ifanc, ac er na chyhoeddwyd cyfrol o'i waith cyhoeddwyd cannoedd o englynion a cherddi ganddo yng nghylchgronau'r cyfnod. Enillodd ei wobr gyntaf am englyn yn ugain oed a'r olaf pan oedd yn ddeg-a-phedwar-ugain. Yr oedd yn ' gymeriad ' yn ei ardal. Bu farw 18 Chwefror 1956 a'i gladdu ym mynwent Cemais.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.