JONES, JOHN ROBERT (1911 - 1970), athronydd a chenedlgarwr

Enw: John Robert Jones
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1970
Priod: Catherine Julia Charles Jones (née Roberts)
Rhiant: Kate Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athronydd a chenedlgarwr
Maes gweithgaredd: Gwladgarwyr; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Mary Beynon Davies

Ganwyd 4 Medi 1911 ym Mhwllheli, Caernarfon, mab William a Kate Jones. Addysgwyd ef yn ysgol Troed-yr-allt ac yn yr ysgol sir, Pwllheli. Oddi yno aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn athroniaeth. Cafodd radd M.A. gyda chlod yn yr un coleg ac oddi yno, gyda chymrodoriaeth Prifysgol Cymru, aeth i Goleg Balliol, Rhydychen, lle yr enillodd radd D.Phil. Penodwyd ef yn ddarlithydd mewn athroniaeth yn ei hen goleg a bu yno hyd nes y penodwyd ef yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, yn 1952. Yn 1943 priododd Catherine Julia Charles Roberts, Nefyn, a bu iddynt un ferch. Yn 1961 ymwelodd â Phrifysgol Chapel Hill, North Carolina, fel athro.

Cychwynasai ei yrfa fel ymgeisydd am y weinidogaeth ond wedi graddio, troes ei holl fryd ar athroniaeth, er iddo barhau yn bregethwr ar hyd ei oes. Bu'n pregethu ledled Cymru ac yn traddodi anerchiadau mewn sasiynau. Nodweddid ei bregethu gan angerdd anghyffredin a barodd i lawer ei alw'n broffwyd.

Canolbwyntiodd ar dair problem yn ei waith athronyddol, sef problem natur yr hunan, problem natur canfod a phroblem natur y cyffedinolion. O'r tair, y bwysicaf iddo ef oedd problem natur yr hunan. Hon oedd testun ei gyfraniad cyntaf a'i gyfraniad olaf i Efrydiau Athronyddol. Yn ddiweddarach ar ei yrfa, dylanwadwyd arno gan syniadau Tillich, Wittgenstein a Simone Weil. Yn ystod y cyfnod hwn y traddododd yr anerchiad Yr argyfwng gwacter ystyr ar y teledu, a ymddangosodd yn ddiweddarach fel pamffledyn ac a roes derm newydd i'r iaith Gymraeg.

Wedi symud i Abertawe a gweld dirywiad yr iaith yng nghymoedd y de trodd ei ddiddordeb at gyflwr Cymru ac ar ôl dychwelyd o'r America yn y 1960au cynnar, wedi gweld y diffyg gwreiddiau yno, y dechreuodd o ddifrif boeni am argyfwng Cymru a'r iaith Gymraeg. Yn ystod ei flynyddoedd olaf dyma oedd holl bryder a chonsyrn ei fywyd. Gwrthwynebodd yr arwisgo yn 1969 yn gryf trwy ymddiswyddo o fod yn olygydd y Traethodydd ac o fod yn aelod o Orsedd y Beirdd. Dyma gyfnod ysgrifennu Prydeindod a thraddodi anerchiadau i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn ystod misoedd olaf ei gystudd paratôdd ddau lyfr ar gyfer y wasg, sef Gwaedd yng Nghymru a Ac onide ac ymddangosodd y ddau ar ôl ei farw. Bu farw 3 Mehefin 1970, yn ei gartref yn Abertawe, a chladdwyd ef ym Mhwllheli.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau a phamffledi: Yr argyfwng gwacter ystyr (1964); Prydeindod (1966); Arwyddion yr eiriolaeth (o'r Ymofynnydd); Cristnogaeth a chenedlaetholdeb; ' Gweithredu anghyfreithlon ' yn Areithiau Eisteddfod Aberafan (Cymdeithas yr Iaith); Ni fyn y taeog mo'i ryddhau (Cymdeithas yr Iaith, 1968); A rhaid i'r iaith ein gwahanu? (1967); Yr ewyllys i barhau (1969); Gwaedd yng Nghymru (1970); Ac onide (1970), ac erthyglau Cymraeg ar athroniaeth a chrefydd yn Y Traethodydd, 1933, 1943, 1949; Credaf, 1944; Taliesin, 1967; Efrydiau Athronyddol, 1938, 1939, 1947, 1950, 1951, 1957, 1961, 1969; Diwinyddiaeth, 1969; Y Drysorfa, 1956; yn Saith ysgrif ar grefydd (1967); a Saesneg : Religion as true myth (darlith agoriadol yng ngholeg Abertawe), 1953; erthyglau mewn cylchgronau: Mind, 1948, 1950, 1954; Philosophical Review, 1949, 1951; Philosophy, 1950; Philosophical Studies, 1950; Philosophical Quarterly, 1951; Aristotelian Society, Symposium suppl., xxx (1956), Proceedings, lix (1958-59); Presidential Address, 1967; Analysis, 1950; Congregational Quarterly, 1950; Sophia, 1970; ac erthygl yn Religion and understanding, gol. D. Z. Phillips, 1967.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.