Ganwyd mewn fferm o'r enw Ffos y gaseg, ym mhlwyf Llanegwad, ger Caerfyrddin, 28 Chwefror 1889, yn fab i Thomas ac Anna Jones. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol Ysbyty. Bu farw ei dad pan oedd J.T. J. yn bymtheg oed, ac wedi gadael yr ysgol bu'n gweithio ar y fferm am rai blynyddoedd. Dechreuodd bregethu yn 1913, gyda'r bwriad o'i gyflwyno'i hun i'r gwaith cenhadol. Aeth i'w baratoi ei hun yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ac oddi yno i'r Coleg Presbyteraidd yn yr un dref. Bu yng ngharchar am ddwy fl. fel gwrthwynebwr cydwybodol, a dioddefodd lawer. Wedi'r rhyfel cwblhaodd ei gwrs colegol, ac wedi ei dderbyn gan Gymdeithas Genhadol Llundain yn genhadwr i Fadagascar, treuliodd gyfnod pellach yn ymbaratoi yn New College, Llundain, a Choleg Livingstone i astudio elfennau meddygaeth.
Urddwyd ef yn weinidog ym Mhant-teg, ger Caerfyrddin (ei fam-eglwys) 4 a 5 Gorffennaf 1921. Ymbriododd â Nyrs Emily Bowen o Benbre yng Nghapel King's Cross, Llundain, a hwyliodd y ddau am Fadagascar ar 9 Mai 1922, gan lanio yn Nhamatâf ar 11 Mehefin yr un flwyddyn. Maes ei lafur oedd Mandritsara, yng ngwlad y Tsimihety yn y gogledd. Am mai Cristnogion o lwyth yr Hwfa (a orchfygasai'r Tsimihety yn y gorffennol) oedd y cenhadon cyntaf yno, ychydig a dderbyniodd yr Efengyl. Yr oedd y wlad yn danddatblygedig an reolaeth drefedigaethol a'r cyfleusterau teithio'n brin iawn. Derbyniwyd J.T. J. yn wresog a bu llwyddiant mawr ar ei ymdrechion. Cyfrinach ei lwyddiant oedd ei ymroad diarbed ac anwyldeb ei bersonoliaeth. Rhoddodd bwyslais mawr ar feithrin arweinwyr brodorol, a theithiodd bellterau mawr ar droed o bentre i bentre. Ganed iddynt dri o blant. Wedi geni'r olaf, clafychodd Mrs. Jones a bu farw yn 1926 wrth ei chludo 200 milltir dros y mynyddoedd i Imerimandroso, lle y trefnasid i feddyg o'r brifddinas ddod i'w gweld. (Gweler Tyst, 17 Mehefin 1976, tud. 5). Yn Nhachwedd yr un flwyddyn bu farw'i fab ieuengaf, ac o fewn llai na chwe mis lladdwyd ei ail fab pan darawyd Imerimandroso gan gorwynt enbyd.
Dychwelodd eto i Mandritsara, ac ar 7 Ebrill 1927 ymbriododd â Mlle. Madeleine Hipeau, athrawes a chenhades dan nawdd Cymdeithas Genhadol Paris, yn y brifddinas. Wedi seibiant yng Nghymru fe'i penodwyd i faes arall, oherwydd cyflwr ei iechyd, ond parhaodd i ymweld â Mandritsara. Erbyn 1932 gofalai am 58 o eglwysi yn Ambohimanga (ger y brifddinas, Antananarivo), 54 ym Mandritsara a 25 yn Anativolo. Erbyn 1943 gwaethygodd ei iechyd gymaint nes ei orfodi i dorri cysylltiad â'r gogledd. Ar ôl seibiant yng Nghymru a Llundain dychwelodd ef a'i briod i Fadagascar yn Rhagfyr 1946. Ond yr oedd y gwrthryfel yn erbyn Ffrainc a'r ymateb creulon Ffrengig bellach wedi cynyddu amheuon y Malagasy tuag at Ewropeaid. Bu'r rhain yn ddyddiau anodd a pheryglus, ond i J.T. J. yn gyfle i wasanaethu fel noddwr y dioddefwyr a chymodwr y pleidiaugelyniaethus. Bu farw yn Eltham, 4 Ebrill 1952, wedi cwblhau ei drefniadau i ddychwelyd i Fadagascar (yn groes i orchymyn y meddyg).
Anerchodd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Llanelli (1929), Llundain (1937), Abertawe (1945) a'r Bala (1951).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.