Ganwyd 27 Mehefin 1888, yn fab i Hugh a Mary Jones, Gellifor, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Addysgwyd ef mewn ysgolion yn Llanrwst a Dinbych, a dechreuodd ar ei yrfa fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr. Daeth yntau'n gyfreithiwr yn 1922 ac fe'i penodwyd i swydd gan Gyngor sir Dinbych. Gwasanaethodd fel Clerc heddwch a Chlerc Cyngor Sir Dinbych rhwng 1930 ac 1949. Enillodd gryn enwogrwydd drwy weithredu fel ysgrifennydd cynhadledd y cynghorau Cymreig i drafod adroddiad Comisiynwyr yr Eglwys yng Nghymru. Fe'i dewiswyd yn 1942 yn aelod o'r pwyllgor ymgynghorol i baratoi cynlluniau ar gyfer ailddatblygu Cymru ar òl Rhyfel Byd II, a bu'n oruchwyliwr rhanbarth de Cymru o'r Weinyddiaeth Ynni o 1942 hyd 1945. Bu hefyd yn gyfarwyddwr rhan-amser o Fwrdd Nwy Cymru, 1948-59, ac yn gyfarwyddwr rhan amser o fwrdd glo rhanbarth y de-orllewin o 1929. Yn yr un flwyddyn gwasanaethodd fel aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Ddienyddio. Yn 1952 fe'i penodwyd yn gadeirydd ar ddau o is-bwyllgorau dylanwadol Cyngor Ymgynghorol Cymru (pwyllgorau â chyfrifoldeb am weinyddiaeth y Llywodraeth yng Nghymru ac am ailddatblygu'r wlad) a chydweithiodd yn effeithiol â Huw T. Edwards. Ymddiswyddodd o'r Cyngor yn 1959 fel protest yn erbyn penodiad Henry Brooke, y gweinidog am faterion Cymru, yn gadeirydd arno.
Ystyrid ef yn un o'r gweinyddwyr mwyaf disglair ym myd llywodraeth leol yng Nghymru. Yr oedd yn Gymro Cymraeg, yn aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a bu'n aelod o Gyngor a Phwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol Derbyniodd yr M.B.E. yn 1941 ac urddwyd ef yn farchog yn 1949.
Priododd (1) yn 1917 Charlotte Maud, merch Jos. Dykins. Bu hi farw yn 1932. Priododd (2) Ellen, merch Henry Bennett, Llanychan, yn 1942. Yr oedd ganddo ddwy ferch. Bu yntau farw 7 Mehefin 1961 yn Hafod, Rhuthun.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.