Ganwyd yn Branas Lodge, Llandrillo, Meirionnydd, 15 Ionawr 1898, yn ail o bedwar mab Thomas Francis a Catherine (ganwyd Edwards) Jones. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol ramadeg y Bala. Oddi yno aeth i Lundain yn un ar bymtheg oed i weithio fel hogyn o glerc yn Swyddfa'r Post, cyn ymuno â'r fyddin yn 1916. Ym mis Mawrth 1918 fe'i rhestrwyd ymhlith y rhai oedd yn swyddogol ar goll, ond ymhen amser daeth gwybodaeth ei fod yn garcharor rhyfel. Yn 1919 cofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddiodd mewn economeg gydag anrhydedd dosbarth I yn 1923. Bu'n gwasanaethu'r Mudiad Cynilo Cenedlaethol yng ngogledd Cymru cyn ei benodi'n ystadegydd yn y Weinyddiaeth Lafur yn Llundain. Yno y bu nes ymddeol yn 1959 ac yn ystod y cyfnod hwnnw cynrychiolodd y Weinyddiaeth mewn cynadleddau a chynulliadau ledled byd. Bu'n aelod blaenllaw ym mywyd crefyddol a diwylliannol Cymry Llundain, yn aelod o gyngor ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Gwnaethpwyd ef yn O.B.E. yn 1959. Ar ôl ymddeol bu'n drysorydd ac is-lywydd Urdd Gobaith Cymru, yn aelod o Lys a Chyngor C.P.C. ac yn flaenor yng nghapel Seilo (MC), Aberystwyth.
Er treulio rhan helaeth o'i oes yn Llundain ni bu pall ar ei deyrngarwch i'w wlad a'i iaith nac ar ei gariad tuag atynt. Glynodd wrth 'y pethe' ac at ei grefydd, ac nid anghofiodd erioed mo'i ddyled i'w rieni a'i fagwraeth ym mro Edeirnion. Nid rhyfedd, felly, mai'r hoff bethau hyn a'i symbylodd i lenydda. Yn 1952, tra oedd yn byw yn Watford, cwplaodd gyfrol bortreadol o'i lencyndod ym mro ei febyd, cyfrol a gyhoeddwyd dan y teitl Godre'r Berwyn. Ar ôl ymddeol i Aberystwyth derbyniodd wahoddiad i gofnodi hanes ei gapel, a bellach fe dderbynnir Canmlwydd Siloh Aberystwyth (1962) fel patrwm o hanes eglwys. Ar ddiwedd y 1960au daeth iddo'r fraint a'r cyfle i gyfrannu i goffadwriaeth swyddogol ei arwr a'i gyfaill - ei dad-yng-nghyfraith, T. Gwynn Jones - drwy ymroi i'r gwaith o ymchwilio a chofnodi ei holl gynnyrch cyhoeddedig enfawr. Y bwriad oedd cyhoeddi llyfryddiaeth gynhwysfawr, ond er iddo gwpláu'r ymchwil bu farw cyn gweld cyhoeddi ffrwyth ei lafur mawr. Cyhoeddwyd Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1981. Yn ei ragymadrodd cyfeiria'r golygydd, D. Hywel E. Roberts, at gyfraniad arbennig F. Wynn Jones ac mewn cynabyddiaeth o'i gyfraniad cyflwynwyd y gyfrol iddo. Cyhoeddodd lu o erthyglau mewn cylchgronau megis Y Traethodydd, Y Ford Gron, Y Genhinen, ynghyd â chyfraniadau i gyhoeddiadau swyddogol ynglŷn â'i waith ystadegol.
Mewn cyfnod terfysglyd yn hanes yr iaith Gymraeg bu'n ymladdwr tawel yn y frwydr i sicrhau dilysrwydd cyfartal iddi ac i'r perwyl hwnnw cyfieithodd o'i wirfodd lu o fflurflenni a dogfennau swyddogol i'r Gymraeg ymhell cyn pen llanw y galw cyffredinol amdanynt.
Priododd yn 1926, Eluned, merch yr Athro a Mrs T. Gwynn Jones. Bu iddynt fab a merch. Bu farw 21 Rhagfyr 1970.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.