LEEKE, SAMUEL JAMES (1888 - 1966), gweinidog (B)

Enw: Samuel James Leeke
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1966
Priod: Amy Gertrude Leeke (née Bryant)
Rhiant: Anne Leeke (née Williams)
Rhiant: Samuel Leeke
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 28 Mawrth 1888 yn Nhal-y-bont, Ceredigion, yn fab i Samuel Leeke (bu farw 14 Chwefror 1943 yn 81 mlwydd oed) ac Anne Leeke (ganwyd Williams, bu farw 31 Rhagfyr 1937 yn 74 mlwydd oed), y rhieni wedi priodi ym Mryste 20 Tachwedd 1884, a'r tad wrth ei alwedigaeth yn saer ac am ugain mlynedd wedi dilyn ei grefft ar y môr ac wedi hwylio droeon ' rownd yr Horn '. Dechreuodd y mab ei yrfa yng ngwasanaeth y Swyddfa Bost, ond yn sgîl Diwygiad 1904-05 fe'i cymhellwyd gan ei fam-eglwys yn y Tabernacl, Tal-y-bont, yn 1907 i ddechrau pregethu. Wedi cwrs o baratoad yn Ysgol yr Hen Goleg yng Nghaerfyrddin derbyniwyd ef yn 1909 i Goleg y Brifysgol a choleg y Bedyddwyr, Caerdydd, ac er gwaethaf ei anfanteision cynnar llwyddodd i gyflawni'r gamp o ennill graddau B.A. yn 1912 a B.D. yn 1915. Ordeiniwyd ef 14 Chwefror 1916 yn weinidog Seion, Cwmaman, Aberdâr, ac ymsefydlodd wedi hynny, 16 Chwefror 1925, yn Siloam, Brynaman, a 5 Hydref 1931 ym Methesda, Abertawe (ar achlysur canmlwyddiant symud yr achos yno o'r Heol Gefn). Yr oedd ei bregethu yn cyfuno angerdd efengylaidd ac ehangder dysg, ac un o gymwynasau pennaf ei weinidogaeth oedd ei ofal diarbed o'i eglwys wasgarog yn ystod Rhyfel Byd II, hynny er iddo ef ei hun ddioddef yn enbyd yn y cyrchoedd bomio ar Abertawe, hyd yn oed at weld llwyr chwalu ei gartref yn 12 Brooklands Terrace nos Lun 17 Chwefror 1941. Priododd ym Methesda, Abertawe, 22 Medi 1931, Amy Gertrude Bryant, aelod yn Seion, Cwmaman, merch i William Bryant (a laddwyd yn y lofa yng Nghwmaman yn 1911) ac Emily Bryant (a fu'n cadw llythyrdy am hanner canrif yn 4 Alexandra Terrace, Cwmaman). Bu farw 31 Rhagfyr 1966 a'i gladdu 4 Ionawr 1967 ym mynwent gyhoeddus Ystumllwynarth.

Yr oedd ei enw yn ddihareb ymhlith ei gydnabod fel casglwr llyfrau o bob math, yn eu plith liaws o argraffiadau cyntaf, a chofir amdano hefyd fel meistr ar amryw o ieithoedd, yn enwedig Hebraeg. Cyfrannodd yn gyson i lenyddiaeth yr enwad, e.e. mor gynnar ag 1917 i'r Hauwr ac yn arbennig yn y 30au i'r Arweinydd Newydd ar faes llafur yr Ysgol Sul, ac i'r un dosbarth o sgrifennu y perthyn ei waith pwysicaf, Llyfr y Proffwyd Eseia: detholion, a gyhoeddwyd yn 1929 dan nawdd Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru. Bu'n amlwg gydag eraill tua diwedd 1929 yn sefydlu Urdd y Seren Fore i blant yr enwad, a gwasanaethodd y mudiad hwnnw mewn mwy nag un swydd, gan gynnwys y llywyddiaeth yn 1939-40. Bu hefyd yn flaenllaw fel aelod o'r pwyllgor cyntaf ac fel darlithydd yn Ysgol Ilston, ysgol baratoi i fyfyrwyr gweinidogaethol a agorwyd yn Abertawe 8 Medi 1934. Yr oedd yn llywydd Cwrdd Dosbarth Ystalyfera a'r cylch adeg ei symud i Abertawe, a chodwyd ef wedi hynny yn llywydd Cymanfa Gorllewin Morgannwg, 1949-50 (testun ei anerchiad o'r gadair oedd ' Trem yn ôl'), ac yn llywydd adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru 1961-62 (a'i anerchiad yng Nghaergybi yn 1961 ar ' Galw am hyder a gobaith newydd yn yr Efengyl'). Cofnodir hefyd iddo weithredu am tua phymtheg mlynedd fel caplan, ar ran yr Eglwysi Rhyddion, yn yr Ysbyty Gyffredinol yn Ffordd Sain Helen, Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.