LEWIS, DAVID EMRYS (1887 - 1954), bardd a newyddiadurwr

Enw: David Emrys Lewis
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1954
Priod: Margaret Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd ym Machynlleth, Trefaldwyn, a'i addysgu yn ysgolion y dref. Dechreuodd ar ei waith newyddiadurol gyda'r Montgomeryshire County Times. Yn 1916 symudodd i Bort Talbot fel cynrychiolydd i'r Cambrian Daily Leader a daeth wedyn yn aelod o staff y Western Mail. Bu hefyd yn ohebydd i bapurau eraill yn ne Cymru. Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Castellnedd 1918 am ei bryddest 'Mynachlog Nedd'. Yr oedd yn briod â merch o Fachynlleth a chawsant ddau fab. Dioddefodd gystudd blin yn ei flynyddoedd olaf a bu farw yn y Gendros, Abertawe, 12 Mawrth 1954 yn 67 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.