LEWIS, EMLYN EVANS (1905 - 1969), llawfeddyg edfrydol

Enw: Emlyn Evans Lewis
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1969
Priod: Mary Lewis (née Cooper)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg edfrydol
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd yn Pennsylvania, 10 Ebrill 1905. Ac yntau eto'n ifanc daeth ei fam ag ef i Gymru ac addysgwyd ef yn Ysgol Trefynwy, ac wedyn dilynodd gwrs o astudiaeth feddygol yn Ysbyty'r Santes Fair yn Llundain. Yno fe'i profodd ei hun yn fyfyriwr disgleiriaf ei flwyddyn, a graddiodd M.R.C.S., L.R.C.P. yn 1929, ac F.R.C.S. yn 1933. Ar ôl profiad helaeth fel llawfeddyg cyffredinol penderfynodd arbenigo yn yr adran edfrydol o lawfeddygaeth (plastic surgery). Rhoddodd wasanaeth gwerthfawr iawn yn ystod Rhyfel Byd I yn y ganolfan yng Nghaerloyw, i adfer awyrenwyr yn dioddef dan artaith llosgiadau dirfawr. Symudwyd yr uned arbennig oddi yno i Gasgwent o dan nawdd Bwrdd Ysbytai Cymru yn 1948, ac yno yn Ysbyty Sant Lawrence - a chyda chysylltiadau ymgynghorol â'r Ysbyty Brenhinol yng Nghaerdydd - y treuliodd y gweddill o'i yrfa ddisglair fel pennaeth y sefydliad.

Daeth enw da'r ysbyty yng Nghas-gwent yn adnabyddus ledled de a gorllewin Cymru, a bu ei ddawn a'i brofiad o fendith anhraethol i'r llu o ddynion a losgwyd tra'n llafurio yn y diwydiant dur a'r gwaith glo. Yr oedd Lewis yn arloeswr talentog yn ei arbenigaeth ddewisol ac yn weithiwr diarbed, ac fe'i perchid yn fawr trwy'r Deyrnas Unedig. Yn ychwanegol yr oedd yn weinyddwr medrus a phendant, a hefyd yn ddarlithydd dawnus.

Gŵr o gorff byr a chadarn ydoedd, a pheldroediwr tanbaid yn ei ddydd - dyna oedd yr eglurhad am ffurf ei drwyn. Dywedir mai anffurffiad hwnnw fu'r symbyliad a enynnodd ei ddiddordeb yn y lle cyntaf mewn llawfeddygaeth edfrydol. Yr oedd ei garedigrwydd yn ddiarhebol a'i gof yn ddi-feth. Yn ei oriau hamdden un o'i brif ddiddordebau oedd casglu hen glociau, a'r llall oedd ei weithgareddau fel aelod blaenllaw iawn ac uchel swyddog gyda'r Seiri Rhyddion. Priododd 28 Hydref 1939 â Mary Cooper. Bu farw yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd 14 Mai 1969, gan adael gwraig ac un ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.