LLOYD, THOMAS ALWYN (1881 - 1960), pensaer a chynllunydd trefol

Enw: Thomas Alwyn Lloyd
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1960
Priod: Ethel Lloyd (née Roberts)
Rhiant: Elizabeth Jones Lloyd
Rhiant: Thomas Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer a chynllunydd trefol
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 11 Awst 1881 yn Lerpwl, mab Thomas ac Elizabeth Jones Lloyd. Hanai'r teulu o gefndir ymneilltuol cadarn o sir Ddinbych, ac etifeddodd yntau gariad dwfn at gefn gwlad Cymru a diwylliant y genedl. Cafodd ei addysg yng ngholeg Lerpwl a Phrifysgol Lerpwl. Astudiodd bensaernïaeth yn Ysgol Bensaernïaeth y Brifysgol. O 1907 i 1912 bu'n gynorthwywr i Syr Raymond Unwin ar faestref Hampstead. Yn 1913 penodwyd ef yn bensaer ymgynghorol i Ymddiriedaeth Cynllunio Trefi a Thai Cymru, a chynlluniodd nifer o bentrefi newydd yng Nghymru a Lloegr, e.e. yn Abergwaun, Llanidloes, Porthaethwy, a Llangefni, eglwysi S. Ffransis, y Barri, a S. Margaret, Wrecsam, Undeb Myfyrwyr, Caerdydd, a thai i'r Comisiwn Fforestydd a'r Bwrdd Glo. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Cynllunio Trefi yn 1914. Aeth i bartneriaeth ag Alex J. Gordon yn 1948. Ymunodd â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1919, a bu'n gadeirydd ei phwyllgor cyffredinol, 1951-54, ac yn llywydd arni, 1958-9. Yr oedd ef a'i briod, Ethel Roberts, M.A. (priododd 1914), yn fynychwyr cyson cyfarfodydd blynyddol y gymdeithas. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cyngor Diogelu Harddwch Cymru Wledig yn 1929 a bu'n gadeirydd iddo o 1947 i 1959. Ef oedd llywydd sefydliad Penseiri Deheudir Cymru o 1929 i 1931, a llywydd Cyngor Cenedlaethol Cynllunio Tai a Threfi, 1932. Gwasanaethodd ar bwyllgor ymgynghorol y Bwrdd Iechyd ar gynllunio Tref a Gwlad, 1933-40, panel ymgynghorol yr Arglwydd Reith ar adlunio, 1941-42, y Cyngor Ymgynghorol Canolog ar Addysg Cymru, 1945-8, Y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, 1949-60, pwyllgor y Postfeistr Cyffredinol ar stampiau, 1957-8.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau: Planning in town and country (1935); Brighter Welsh villages and towns (1932), a chyda Herbert Jackson, South Wales outline plan (1947); a nifer o erthyglau.

Yr oedd yn ynad heddwch ac yn gadeirydd y Discharged Prisoners Aid Society yng Nghaerdydd. Rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1950, etholwyd ef yn F.S.A. yn 1953, a gwnaethpwyd ef yn O.B.E. yn 1958. Gwnaeth ei gartref yn Hafod Lwyd, Heolwen, Rhiwbina, Morgannwg, ond bu farw 19 Mehefin 1960 yn Torquay pan oedd ar wyliau yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.