LLOYD, DAVID GEORGE (1912 - 1969), datganwr

Enw: David George Lloyd
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 1969
Rhiant: Elizabeth Lloyd
Rhiant: Pryce Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: datganwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yn Nhrelogan, Fflint, 6 Ebrill 1912, yn fab i Pryce (glöwr) ac Elizabeth Lloyd. Gadawodd ysgol Trelogan yn 14 oed a'i brentisio'n saer coed yn Niserth. Ymddiddorai mewn canu yn bur ieuanc, a byddai'n arferiad ganddo gystadlu mewn eisteddfodau bychain yn Sir y Fflint ac yn nyffryn Clwyd. Mewn eisteddfod a gynhaliwyd yn Licswm, 18 Gorffennaf 1931, pan enillodd gystadleuaeth ganu i rai heb ennill gwobr gyntaf o'r blaen, proffwydodd John Williams, Bangor, y beirniad, bod iddo ddyfodol disglair fel datganwr, ac awgrymodd y dylai pobl Sir y Fflint ei gynorthwyo i gael addysg gerddorol er mwyn ei alluogi i ddilyn gyrfa fel datganwr proffesiynol.

Ar ôl nifer o gyngherddau lleol i'w gynorthwyo, gadawodd ei grefft yn 1933 pan enillodd ysgoloriaeth Sam Heilbut i astudio yn y Guildhall School of Music, Llundain. Yno, bu'n eistedd wrth draed Walter Hyde, ac ennill rhai o'r prif anrhydeddau, gan gynnwys gwobr Catherine Howard i denoriaid (1934), bathodyn aur yr ysgol (1937), a bathodyn y City of London Worshipful Company of Musicians (1938).

Yn 1938-39 daeth i gryn amlygrwydd pan ganodd Verdi a Mozart yn Glyndebourne, a phan ddewiswyd ef i ganu rhai o'r prif rannau mewn gwyliau cerddorol yn Sweden Denmarc a Gwlad Belg. Yn 1940, canodd Mozart yn Sadlers Wells, ac onibai i'r rhyfel ddrysu ei gynlluniau diamau y byddai hefyd wedi canu yn La Scala Milan ac yn y Metropolitan Opera House yn Efrog Newydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Yn ystod cyfnod ei wasanaeth milwrol (yn y Gwarchodlu Cymreig), 1940-45, bu'n brysur yn darlledu, recordio a chynnal cyngherddau ledled Prydain, ac oherwydd ei barodrwydd bob amser i ganu eitemau Cymraeg enillodd glust a chalon y genedl, a daeth yn eilun ar ei haelwydydd. Ar derfyn y rhyfel canodd yng ngwyliau Verdi a Mozart yn yr Is-Almaen (1946), ac erbyn 1954 cawsai'r anrhydedd o ganu dan fatwn rhai o brif arweinyddion ei ddydd. Bu hefyd yn darlledu 'n rheolaidd am dros chwarter canrif, a daeth rhai o'r cyfresi radio y cymerodd ran ynddynt o Gaerdydd, megis ' Melys Lais ', a ' Silver Chords ' yn wir boblogaidd.

Cafodd ddamwain yn 1954 a amharodd ar ei yrfa liwgar fel datganwr proffesiynol, ac er iddo ailgydio yn ei ganu yn 1960 yr oedd ansawdd ei lais wedi dirywio ar ôl iddo dreulio ysbeidiau meithion yn orweiddiog mewn ysbytai. Yn ystod cyfnod ei anterth yr oedd yn berchen llais persain a soniarus, o ansawdd telynegol hyfryd, a rhoddai ystyriaeth arbennig bob amser i eiriau'r gân y ceisiai ei dehongli. Yn Lloegr enillasai fri fel dehonglwr gweithiau Mozart, eithr yng Nghymru fe'i cofir fel datganwr a anfarwolodd ganeuon poblogaidd ac emyn-donau ei genedl.

Cyflwynwyd tysteb genedlaethol o £1,800 iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yng Ngholeg Technegol sir y Fflint, 25 Chwefror 1961, ac yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, 1969, sefydlwyd cronfa goffa yn dwyn ei enw'i estyn cefnogaeth ymarferol i rai o'n pobl ifanc addawol ym myd cerddoriaeth'.

Bu farw yn ŵr dibriod mewn ysbyty yn y Rhyl, 27 Mawrth 1969, a'i gladdu ym mynwent Picton, ger Gwesbyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.