Ganwyd 14 Hydref 1885, yn fab i John a Dorothy Lloyd-Jones, Cartrefle, Dolwyddelan, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Llanrwst, a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd yn 1906, a chafodd M.A. Prifysgol Cymru yn 1909. Cymerodd radd B.Litt. Rhydychen o Goleg Iesu, a bu'n astudio gyda Rudolf Thurneysen ym Mhrifysgol Freiburg. Penodwyd ef yn bennaeth cyntaf yr Adran Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, a daliodd y swydd nes ymddeol yn 1955. Bu'n arholwr allanol yn y Gymraeg i Brifysgol Cymru o 1916 hyd 1955.
Fel ysgolhaig ysgrifennodd Lloyd-Jones nodiadau ar ystyron geiriau Cymraeg i Fwletin y Bwrdd Celtaidd a'r Zeitschrift für celtische Philologie. Yn 1921 enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon am draethawd ar ystyron enwau lleoedd yn y sir. Cyhoeddwyd y gwaith, wedi ei helaethu, yn 1928 dan y teitl Enwau lleoedd sir Gaernarfon. Er bod astudio enwau lleoedd wedi symud ymlaen lawer er pan ysgrifennwyd y llyfr hwn, y mae iddo werth o hyd, ac yn ei ddydd ei hun ef oedd yr unig astudiaeth o'r fath yng Nghymru a wnaed yn ôl safonau ysgolheictod diweddar. Yn 1924 gofynnwyd i Lloyd-Jones gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru fynd yn gyfrifol am yr eirfa i waith y Gogynfeirdd y bwriedid ei chyhoeddi. Daeth y rhifyn cyntaf allan yn 1931, yn 96 o dudalennau cynhwysfawr, dan y teitl Geirfa barddoniaeth gynnar Gymraeg, a gwelwyd fod yr awdur wedi cynnwys cannoedd o gyfeiriadau at farddoniaeth Gymraeg cyn cyfnod y Gogynfeirdd a hefyd gweithiau beirdd yr uchelwyr a rhyddiaith y cyfnod canol. Gyda phob rhan a gyhoeddwyd yr oedd cylch y darllen yn ehangu. Daeth y seithfed ran allan yn 1952, yr olaf i'r awdur ei goruchwylio trwy'r wasg, oherwydd yr oedd ef wedi marw pan ymddangosodd yr wythfed ran yn 1963. Y gair olaf a gynhwyswyd oedd heilic. Y mae'r gwaith hwn yn enghraifft wych o ysgolheictod Cymraeg ar ei orau. Yn ychwanegol at y llafur enfawr yr oedd yn rhaid wrtho i gasglu'r defnydd ac i ddosbarthu ffurfiau (e.e. ffurfiau berfol), y mae'n dangos hefyd ddawn arbennig i ddarganfod ystyr neu ystyron gair tywyll ac i ddosbarthu'r rheini pan fo angen. Y mae trylwyredd y gwaith yn rhyfeddol. Er enghraifft, fe groniclir tri ar hugain o wŷr o'r enw Dafydd, a nodi, hyd y gellir hynny, pwy yn union oedd pob un. Mae'r Eirfa o werth amhrisiadwy i ddeall llenyddiaeth y cyfnod canol, ac fe bery felly eto. Y gresyn mawr yw na fuasai cynllun yr awdur wedi caniatáu iddo orffen y gwaith. Yr oedd Darlith Goffa John Rhŷs, a draddododd Lloyd-Jones i'r Academi Brydeinig yn 1948, ' The court poets of the Welsh princes ', yn ganlyniad yr wybodaeth fanwl o waith y Gogynfeirdd a enillodd ef wrth ddarllen ar gyfer yr Eirfa.
Yr oedd i Lloyd-Jones safle anrhydeddus fel bardd yn y mesurau caeth. Enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman yn 1922 am ei awdl ' Y Gaeaf ', cerdd delynegol, goeth ei mynegiant a chywrain iawn ei hadeiladwaith. Cyhoeddwyd cerddi o'i waith yn Y Llenor yn 1930, 1942, 1949 ac 1950, pob un yn drwyadl draddodiadol o ran naws a mydryddiaeth, ac yn wych fel barddoniaeth yn aml. Y mae casgliad o'i gerddi yn ei law ef ei hun yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. Yn 1925 cyhoeddodd Gwasg Gregynog y gyfrol Caneuon Ceiriog: Detholiad. Lloyd-Jones a ddetholodd y cerddi, ac fe ysgrifennodd 'Ragarweiniad' sy'n draethawd beirniadol ar waith y bardd. Cafodd radd D.Litt. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1948.
Gŵr mwyn a charedig ei air a'i natur oedd Lloyd-Jones. Er treulio cyfnod maith yn Iwerddon ni chollodd ddim o'r nodweddion hynny a gafodd o'i gefndir Ymneilltuol yng Nghymru. Bu am flynyddoedd yn un o brif gynheiliaid capel Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Nulyn, nes dirwyn yr achos i ben.
Priododd Freda Williams, Bangor, yn 1922. Bu farw 1 Chwefror 1956, a chladdwyd ef ym Mryn-y-bedd, Dolwyddelan.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.