Ganwyd 14 Chwefror 1901 yn Llansannan, Sir Ddinbych yn fab i Richard Lloyd a Margaret ei wraig. Pan oedd yn ifanc iawn symudodd ei deulu i fyw i Lan Conwy, ac yno y maged ef. Fel William Lloyd, Cyffordd Llandudno, y daeth i amlygrwydd, gan mai yno y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes yn gweithio fel taniwr ar y rheilffordd, ac yn ddiweddarach fel gyrrwr trên. Meithrinwyd ei ddawn gerddorol gynnar gan Edwin Evans yng Nghapel Salem, Ffordd Las, ac estynnwyd ei ddiddordeb ymhellach o dan ddylanwad y Parchg. D. H. Rees. Yn y man, enillodd radd A.T.S.C. Cyn hir dechreuodd arwain corau a phartïon lleol, a hefyd gôr y rheilffordd a fu'n cystadlu droeon yng ngwyliau cenedlaethol y rheilffyrdd yn Birmingham. Yn y 1940au dechreuodd ef a'i gydweithiwr, Huw Hughes, ymddiddori o ddifrif yn yr hen grefft o ganu gyda'r tannau a mynd ati i osod pennill ar gainc. Bu'r ddau ohonynt yn hyfforddi ac yn gosod i lawer. Yr oedd gan William Lloyd ddeuawdwyr a phartïon yn ardaloedd Eglwysbach a Chyffordd Llandudno, ac allan o'r parti cerdd dant a sefydlodd ef yn 1962 y datblygodd Côr Meibion Maelgwn. Bu'n fuddugol mewn cystadleuaeth llunio cyfres o geinciau gosod yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1953. Gwelodd fod prinder ceinciau gosod, ac aeth ati i lunio a chyhoeddi nifer o alawon a ddaeth yn boblogaidd iawn, yn eu plith geinciau megis 'Rhoshelyg' a 'Mwynen Eirian'. Bu'n feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol droeon, ac yr oedd ei ddull artistig o ysgrifennu ei gyfansoddiadau cerddorol yn destun edmygedd i lawer. Priododd ag Olive Lewis ym mis Medi 1929. Bu farw 20 Hydref 1967.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.