LOVEGROVE, EDWIN WILLIAM (1868 - 1956), ysgolfeistr ac awdurdod ar bensaernïaeth Gothig

Enw: Edwin William Lovegrove
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1956
Priod: Kathleen Agnes Lovegrove (née Sanders)
Priod: Septima Jane Lovegrove (née Roberts)
Plentyn: Wynne Lovegrove
Rhiant: Edwin Lovegrove
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr ac awdurdod ar bensaernïaeth Gothig
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Addysg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn hanner cyntaf 1868, yn fab hynaf Edwin Lovegrove, curad Woodside, Horsforth ger Leeds. Addysgwyd ef yn Ysgol Merchant Taylors, Crosby a Choleg Newydd, Rhydychen, lle y graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Mathemateg. Bu'n athro yn Giggleswick; Ysgol Friars, Bangor; Coleg Trent; ac yn brifathro ysgolion Clee, Grimsby; Stamford; a Rhuthun, 1913-30. Priododd (1), 1899, Septima Jane Roberts (bu farw 30 Ebrill 1928), chwaer William Rhys Roberts, a bu iddynt fab, Wynne, a syrthiodd yn Dunkirk, a dwy ferch. Priododd (2) Kathleen Agnes Sanders. Wedi ymddeol bu'n byw yn Llanelwy 1930-31, Chipping Campden 1932-41, Y Fenni 1942-45, ac yn Fownhope, Swydd Henffordd hyd ei farwolaeth, 11 Mawrth 1956.

Bu'n aelod gwerthfawr o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, 1913-56, ac o gymdeithasau hynafiaethol eraill. Cymerodd ddiddordeb craff mewn pensaernïaeth, gan ddod yn arbenigwr ar bensaernïaeth Gothig eglwysi ac abatai. Darlithiai ar y pwnc a chyhoeddodd ei astudiaethau manwl a niferus mewn cylchgronau megis Archæologia Cambrensis 1921-47, Arch. Jnl.; Journal of the British Archaeological Association; Bristol and Gloucestershire Transactions. Ymhlith yr adeiladau a astudiodd y mae eglwysi cadeiriol Llanelwy, Tyddewi a Llandaf; abaty Glyn-y-groes, priordy Llanddewi Nant Hodni, a brodordy Rhuddlan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.