MATHIAS, RONALD CAVILL (1912 - 1968), arweinydd undeb llafur

Enw: Ronald Cavill Mathias
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 1968
Priod: Annie Ceridwen Mathias (née Hall)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd undeb llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 21 Medi 1912 ym Mhontarddulais, Morgannwg. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Tre-gŵyr. O 1924 hyd 1945 yr oedd yn aelod o staff glerigol cwmni Richard Thomas (yn ddiweddarach Richard Thomas a Baldwin, Cyf.), gwneuthurwyr haearn a dur yn ne Cymru. Yn 1945 penodwyd ef yn drefnydd ardal Merthyr o'r Transport and General Workers' Union. Daeth yn drefnydd ardal Caerdydd yn 1949 ac yn ysgrifennydd rhanbarth de Cymru o'r TGWU yn 1953. Ymddiswyddodd yn 1967 pan ddewiswyd ef yn aelod llawn-amser o'r Bwrdd Cenedlaethol ar Brisiau a Chyflogau. Daliodd nifer o swyddi cyhoeddus, ac yn eu plith is-gadeirydd Cyngor Economiadd Cymru, ysgrifennydd pwyllgor ymgynghorol de Cymru o Gyngres yr Undebau Llafur, trysorydd y Cyngor Llafur Cymreig a llywodraethwr Coleg Technoleg Uwch Cymru, ac enwi dim ond rhai ohonynt. Daeth yn gadeirydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn 1965. Cyhoeddodd nifer o erthyglau mewn cylchgronau ac yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd ar faterion economaidd a diwydiannol. Derbyniodd yr M.B.E. yn 1938 a'r O.B.E. yn 1967. Priododd yn 1938 Annie Ceridwen Hall a bu iddynt un ferch. Bu farw 15 Ebrill 1968 ar ddechrau mordaith i'r Môr Canoldir a chladdwyd ef yn y môr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.