MATTHEWS, NORMAN GREGORY (1904 - 1964), canghellor

Enw: Norman Gregory Matthews
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1964
Priod: Mary Laurella Matthews (née Thomas)
Rhiant: Agnes Amelia Matthews
Rhiant: William John Matthews
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: canghellor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Ganwyd 12 Chwefror 1904 yn Abertawe, unig fab William John ac Agnes Amelia Matthews. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Abertawe, Coleg Iesu, Rhydychen, gydag ysgoloriaeth Meyricke (graddio'n B.A. (dosb. II) mewn diwinyddiaeth, 1926, ac M.A. 1930), a choleg diwinyddol St Stephen's House, Rhydychen, 1926. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 1927, a'i drwyddedu'n gurad eglwys Dyfrig Sant, Caerdydd. Urddwyd ef yn offeiriad, 1928. Yn 1935 penodwyd ef yn warden cyntaf neuadd breswyl S. Teilo, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a daliodd y swydd hyd 1940 pan gafodd fywoliaeth eglwys S. Saviour, y Rhath, Caerdydd. Yr oedd yn genhadwr esgobaethol Llandaf, 1936-40, ac yn arholwr yr esgob o 1938 ymlaen. Gweithredodd fel caplan carchar Caerdydd, 1940-45. Dyrchafwyd ef yn ganon cadeirlan Llandaf, 1946, ac yn ganghellor yn 1952. Yn 1953 cafodd fywoliaeth Sain Ffagan lle bu farw 6 Awst 1964 a'i gladdu ym mynwent yr eglwys gadeiriol, Llandaf.

Priododd yn 1953 â Mary Laurella, merch hynaf Walter Rees a Kathleen Olga Thomas o'r Eglwys-wen, Caerdydd. Yr oedd y ddau'n gyd-efrydwyr yn Rhydychen.

Yr oedd yn aelod o gomisiwn litwrgïaidd yr Eglwys yng Nghymru o'i ddechreuad, ac yn aelod o bwyllgor canolog darparu ymgeiswyr am urddau yn yr Eglwys yng Nghymru, ac ysgrifennodd nifer o bamffledi ar yr alwad i'r weinidogaeth. O 1942 ymlaen bu'n darlithio ar lenyddiaeth Saesneg o dan yr awdurdod addysg a'r Cyngor Prydeinig. Bu'n darlledu 'n gyson ac yn 1957 daeth yn aelod o banel Cymreig y rhaglen The Brains Trust ar deledu'r B.B.C. Cyfrannai i gylchgronau a phapurau ar bynciau llenyddol, ac yr oedd yn gerddor medrus.

Bu'n fawr ei ddylanwad yn yr Eglwys yng Nghymru, yn bregethwr dawnus, yn gwmnïwr a storïwr diddan ac yn bersonoliaeth hoffus. Ystyrid ef yn un o'r offeiriaid disgleiriaf yn ei ddydd yn yr Eglwys yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.