Ganwyd 28 Gorffennaf 1874 yn y Waun, Sir Ddinbych, yn fab i James a Jane Meredith. Yr oedd yn un o ddeg o blant, ac aeth ei frawd Samuel yn ei flaen i chwarae pêl-droed gyda Stoke City a Leyton ac ennill wyth cap rhyngwladol dros Gymru. Ond Billy oedd pêl-droediwr mwyaf talentog y teulu. Elwodd yn fawr ar yr hyfforddiant cynnar a gafodd gan ei athro yn ysgol y Waun, Thomas E. Thomas, llywydd gweithredol cyntaf Cymdeithas Bêl-Droed Cymru. Dirwynwr peiriant yng Nglofa Parc Du yn y Waun oedd galwedigaeth ei dad, ac aeth Billy yntau i'r lofa yn syth o'r ysgol. Ymunodd â chlwb pêl-droed Northwich Victoria yn 1893 ac aeth sôn am ei ddawn fel asgellwr chwim a chyfrwys fel corwynt drwy'r gogledd. Llwyddodd clwb Manchester City i'w berswadio i ymuno â hwy a chwaraeodd ei gêm gyntaf drostynt ar 27 Hydref 1894. Ar y maes medrai droi hanner cyfle yn gôl: yn ystod tymor 1898-99 sgoriodd 36 gôl mewn 33 gêm, a saif y gamp honno yn record i asgellwr hyd heddiw. Yn 1904 sgoriodd y gôl a enillodd Gwpan Lloegr i Manchester City, ac ef oedd y Cymro cyntaf i godi'r cwpan hwnnw.
Yn sgîl helynt ariannol, trosglwyddwyd Meredith i Manchester United yn 1907 am dâl o £50. Cododd ei bac er mwyn chwyddo'i gyflog. Eisoes, yn 1901, yr oedd wedi priodi merch o Barnsley, Ellen Negus, a ganed iddynt ddwy ferch. Bu'n ysbrydiaeth gyson i'w dîm newydd: enillwyd pencampwriaeth yr Adran Gyntaf ddwywaith (yn 1908 ac 1911) ac yn 1909 curwyd Bristol City 1-0 yng ngornest derfynol Cwpan Lloegr yn y Palas Crisial. Erbyn trothwy Rhyfel Byd I tybiwyd fod ei ddyddiau mawr wedi dod i ben. Ond daliai i chwarae ac ym mis Awst 1921 dychwelodd i Manchester City i'w hailysbrydoli hwythau am dair blynedd. Ac yntau'n 50 oed, ffarweliodd Billy Meredith â'r gêm ar 29 Ebrill 1925. Rhwng 1894 ac 1925 chwaraeodd 1,568 o gemau a sgoriodd 470 o goliau.
Cafodd Meredith yrfa ryngwladol ddisglair iawn. Bu'n ddewis cyntaf ar yr asgell dde i Gymru rhwng 1895 ac 1920, ac enillodd 48 cap swyddogol, sef ugain yn erbyn Lloegr, un-ar-bymtheg yn erbyn Iwerddon, a deuddeg yn erbyn yr Alban. Sgoriodd sawl gôl dyngedfennol dros Gymru ond bu raid iddo aros hyd ei gêm olaf dros Gymru cyn profi'r wefr o guro Lloegr (2-1 ar 15 Mawrth 1920) ar eu tomen eu hunain.
Ar lawer ystyr, yr oedd Billy Meredith ymhell o flaen ei amser o ran dawn a deall. Corff esgyrnog, gwydn oedd ganddo, a gelwid ef yn ' Old Skin ' gan ei gyfeillion. Edrychai'n ddiniwed iawn yn loetran ar yr ystlys yn ei drowsus llac hir, ac un o'i fympwyon rhyfeddaf oedd treiglo deintbyg yn ôl ac ymlaen yn ei geg. Ond pan ddeuai'r bêl i'w gyfyl, gloywai ar unwaith. Arteithiai gefnwyr yn ddidrugaredd gan na fedrent ragweld beth a wnâi nesaf. Meddai ar ymwybyddiaeth lawn o brif hanfodion y gêm ac arbrofai'n gyson wrth gymryd cic gosb neu gic gornel. Er mai dyn swil ydoedd, safodd yn ddewr dros ei hawliau ar, ac oddi ar, y maes. Nid un ydoedd i ddioddef anghyfiawnderau personol a llafuriodd yn ddygn i berswadio'r awdurdodau i gydnabod pêl-droed fel proffesiwn ac i dalu cyflog teilwng i chwaraewyr. Yn 1931 dychwelodd i Manchester United i weithredu fel hyfforddwr ac wedi rhoi'r gorau i'r gwaith hwnnw, aeth i gadw tafarn yn y ddinas. Bu farw yn 81 oed, yn Withington, Manceinion, ar 19 Ebrill 1958. Cyn Rhyfel Byd II, ni welodd Cymru amgenach pêl-droediwr na Billy Meredith.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.