MICHAEL, JOHN HUGH (1878 - 1959), gweinidog (EF), Athro mewn colegau Methodistaidd yn Lloegr a Chanada, esboniwr

Enw: John Hugh Michael
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1959
Rhiant: Kate Michael
Rhiant: Thomas Michael
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF), Athro mewn colegau Methodistaidd yn Lloegr a Chanada, esboniwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Eric Edwards

Ganwyd 9 Awst 1878 yn Y Felinheli, Caernarfon, yn fab i Thomas a Kate Michael. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor, cyn ei dderbyn i Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor, lle y graddiodd yn y Celfyddydau yn 1899. Wedi bod yn bregethwr lleyg ar gylchdaith Caernarfon, cymhellwyd ef i'w gynnig ei hun yn ymgeisydd am y weinidogaeth gyda'r Wesleaid. Derbyniwyd ef ac yn 1900 aeth i Goleg Didsbury, Manceinion, a chwblhau yno ei gwrs B.D. yn llwyddiannus. Yna, yn 1903, penodwyd ef yn Athro cynorthwyol yng Ngholeg Headingley, Leeds, a bu yno am bedair blynedd. Bu'n weinidog cylchdeithiol yn Wakefield (3 blynedd) ac Eccles (3 blynedd) cyn mynd, yn 1913, i Canada, wedi ei ddewis yn Athro yn y Testament Newydd yng Ngholeg Emmanuel o Brifysgol Victoria yn Toronto. Yn ystod Rhyfel Byd II, bu'n gydweinidog ar eglwys Eaton Memorial yn Toronto, tra'n parhau â'i astudiaethau a chyda mawr lwyddiant. Yn 1919 rhoddwyd iddo radd D.D. er anrhydedd gan Brifysgol Queen's yn Canada. Trwy gydol ei arhosiad ym Mhrifysgol Victoria, cyfrannai'n gyson i gylchgronau diwinyddol, ac o'r llyfrau a gyhoeddodd efallai mai'r pwysicaf i gyd oedd ei esboniad ar y Philipiaid yn y gyfres Moffat New Testament Commentary (1928). Fel athro a phregethwr, traethai'n huawdl, gydag argyhoeddiad, a heb golli acen y Cymro. Gallasai fod yn llym wrth draethu onibai am ambell fflach o ffraethineb a hynny'n gwneud ei ddarlithio a'i bregethu'n fwy effeithiol. Yr oedd yn gyfeillgar ag athrawon a gwŷr enwog ei ddydd, megis Reinhold Niebuhr, Albert Einstein, James Moffatt a Wilbert Howard a fu am beth amser yn gydefrydydd â Michael yn Didsbury. Cydefrydydd arall iddo yn Didsbury oedd Edward Tegla Davies a'i disgrifiodd fel 'gŵr tal, gryn dipyn dros ddwylath, llydan o gorff, pen tywysogaidd, cymeriad cadarn a thyner, ac amddiffynnydd i'r gwan'.

Wedi treulio'r blynyddoedd yn Toronto, bu'n uwchrif yno a pharhau i ddwyn bendith i lawer trwy ei bregethau a'i ysgrifau. Bu farw yn Toronto, 6 Ionawr 1959, wedi bod yn weinidog am 56 blynedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.