MICHAELIONES, THOMAS (THOMAS MICHAEL JONES; 1880 - 1960), offeiriad a pherchennog gwaith aur

Enw: Thomas Michaeliones
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1960
Priod: Constance Mary Michael (née Weighill)
Priod: Janet Michael (née Chadwick)
Rhiant: Ellen Michael Jones
Rhiant: Thomas Michael Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a pherchennog gwaith aur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 1 Mai 1880 yn fab Thomas ac Ellen Michael Jones, 24 Baptist St., Pen-y-groes, Sir Gaernarfon. Mynychodd ysgolion Pen-y-groes a Phorthaethwy a bu'n fyfyriwr lleyg yng Ngholeg Diwinyddol yr Annibynwyr yn Aberhonddu (1905-06). Bu'n newyddiadurwr am gyfnod byr ond yn 1911 cafodd fedydd esgob yn Llanllyfni ac aeth yn giwrad ym Mlaenau Ffestiniog (1917-20), Caergybi (1920-24) a Llanwnog (1924-29), cyn cael rheithoriaeth S. Beuno, Pistill, Sir Gaernarfon, a gofal eglwysi Llithfaen a Charn-guwch (1929-60).

Yn 1924 cyhoeddodd dri llyfryn o farddoniaeth Saesneg a'r flwyddyn ddilynol cyfansoddodd benillion i'r ' Union Jack ' ar gyfer cystadleuaeth. Dewiswyd hwy i'w cyhoeddi gan gwmni o Lundain gydag alaw bwrpasol gan Arthur Selaw. Cymerai Thomas Michaeliones ddiddordeb mewn hynafiaethau a hanes yr Eglwys, gan gyhoeddi nifer o bamffledi, ar eglwysi ardal Nefyn yn fwyaf arbennig. Adnewyddodd eglwys Pistill a fu ar gau am gyfnod hir, ac ymdrechodd i arbed eglwys hynafol Carn-guwch rhag mynd yn adfail.

Yr oedd yn gymeriad hynod, ac un o'i liaws diddordebau oedd cloddio am aur ar dyddyn Graigwen a brynodd yn nyffryn Mawddach. Bu'n berchen y gwaith aur yno o tuag 1938 nes ei gau yn 1953. Derbyniwyd ei gynnig i gyflenwi'r aur at wneud modrwy briodas y Dywysoges Elizabeth yn 1947.

Newidiodd ei enw pan briododd (1), yn 1916, â Janet Chadwick (marw 1940). Bu iddynt dair merch a mab. Priododd (2) â Constance Mary Weighill yn 1942 a ganwyd iddynt un ferch. Bu ef farw 24 Ebrill 1960 yn ei gartref, Gwerindy, Pistill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.