MORGAN-OWEN, LLEWELLYN ISAAC GETHIN (1879 - 1960), gweinyddwr milwrol yn yr India

Enw: Llewellyn Isaac Gethin Morgan-owen
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1960
Priod: Ethel Berry Morgan-Owen (née Walford)
Rhiant: Emma Morgan-Owen (née Maddox)
Rhiant: Timothy Morgan-Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinyddwr milwrol yn yr India
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 31 Mawrth 1879 yn fab Timothy Morgan-Owen (H.M.I.), Llwynderw, Llandinam, Trefaldwyn, ac Emma (ganwyd Maddox). Addysgwyd ef yn Arnold House, Llandulas; Ysgol Amwythig; a Choleg y Drindod, Dulyn. Bu gyda milisia Caernarfon yn 1899 cyn ymuno â'r fyddin yn 1900 a gwasanaethu gyda'r 24ain South Wales Borderers yn Orange River Colony a'r Transfâl, De Affrica, hyd ddiwedd y rhyfel yn 1902, gan ennill dau fedal a phum clasb. Yn 1904 cyflogwyd ef gan y West African Frontier Force, gan wasanaethu yn 1908 gyda chatrawd y mounted infantry drwy ogledd Nigeria. Dychwelodd at ei gatrawd yn 1910. Yn ystod Rhyfel Byd I anfonwyd ef i Gallipoli ac yr oedd yn bresennol ym mrwydr Sari Bair ac yn ddiweddarach cynorthwyodd gyda'r enciliad o Suvla a Helles Major. Yn 1916 penodwyd ef yn Swyddog Staff Cyffredinol yn Division 13 ac anfonwyd ef i Fesopotamia. Enwyd ef bum gwaith mewn cadlythyrau yn ystod yr ail a'r trydydd ymgais i ryddhau Kut, ac wrth gymryd Baghdad yn 1917. Yn 1920 aeth i'r India pan benodwyd ef yn swyddog cynorthwyol ac yn Gwarterfeistr Cyffredinol, yn gyntaf gyda Byddin Waziristan, ac wedyn ym mhencadlys y Comand Deheuol. Yn 1924 aeth i bencadlys y Fyddin a'i benodi'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Tâl a Phensiynau yn 1925, gan ddod yn Gyfarwyddwr Trefniadaeth yn 1927. Gadawodd yr India ym mis Ebrill 1928. Y flwyddyn ddilynol cymerodd gomand Brigâd 160 (De Cymru), a'r 9fed Frigâd yn Portsmouth yn 1931. Wedi treulio cyfnod (1934-38) yn uchgapten a gofal ganddo am weinyddiaeth yn y Comand Dwyreiniol, bu'n is-reolwr ac ysgrifennydd Ysbyty Brenhinol Chelsea, 1940-44. Yr oedd hefyd yn gyrnol gyda'r South Wales Borderers, 1931-44, ac ar waethaf ei absenoldeb o'i gatrawd am gyfnodau hir cyflawnodd lawer o waith defnyddiol drosti yn ei swydd fel cyrnol. Ac yntau'n gyn- chwaraewr pêl-droed, bu o gymorth mawr i Gymdeithas Pêl-droed y Fyddin, a llywyddai ei chyfarfodydd pan oedd gyda'r Horse Guards. Derbyniodd D.S.O. yn 1916, C.M.G. yn 1918, C.B.E. am wasanaeth yn Waziristan (pryd yr enwyd ef eto mewn cadlythyrau), a C.B. yn 1934. Yn 1910 priododd Ethel Berry Walford (bu farw 1950) a bu iddynt un mab. Bu farw 14 Tachwedd 1960.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.