Ganwyd 8 Gorffennaf 1876, yn unig fab i Evan Morgan, Brynseir, Lledrod, Ceredigion a Chatherine (ganwyd Parry), ei wraig, merch Morgan Parry, arolygydd stad y Trawsgoed. Pan oedd yn chwech oed symudodd y teulu i Bontycymer, gan ymaelodi yn eglwys Bethel (MC) yno. Cafodd ei addysg yn yr ysgol fwrdd ym Mhontycymer, ond rhoddai bwys mawr ar ddylanwad yr Ysgol Sul arno. Bu am ryw faint o gylch 1889-92 yn ddisgybl yn Academi Aberafan, ond bu rhaid iddo ddychwelyd i weithio mewn glofa fel ei dad. Yn 1894 dechreuodd bregethu ac aeth i Academi'r Parch. Dunmore Edwards ym Mhontypridd. Yn 1896 derbyniwyd ef i Goleg Trefeca. Yn 1900 derbyniodd alwad i Flaenannerch, Ceredigion. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa Awst 1901 yng nghapel Heol Dŵr, Caerfyrddin. Ym Mlaenannerch yr oedd Diwygiad 1859 yn aros yn rym yn yr eglwys a bu dylanwad Diwygiad 1904-05 yn drwm ar yr eglwys a'i gweinidog ieuanc a bu yntau'n arweinydd diogel i'w braidd gan eu cadw rhag peryglon gordeimladrwydd a'u hyfforddi'n gadarn yn yr ysgrythyrau, gan osgoi llythrenoliaeth a'u magu'n wrandawyr deallus. Er iddo dreulio gweddill ei oes ym Mlaenannerch daeth yn fuan i reng flaenaf pregethwyr ei gyfnod, a mawr fu'r galw arno i gymanfaoedd pregethu ledled y wlad, a daeth M.P. Morgan, Blaenannerch yn enw teuluaidd drwy'r enwad. Yr oedd elfennau tanllyd yn ei bregethau ond gofalodd ddehongli ei destunau'n fanwl a bu'n athro i'w braidd mewn dosbarthiadau Beiblaidd ac mewn Cymdeithas Ddiwylliadol. Pregethu, serch hynny, oedd nwyd fawr ei fywyd. Traddododd Ddarlith Goffa'r Dr John Williams yn 1947. ' Pregethu ' oedd testun honno. Ef oedd llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1949.
Bu farw 27 Rhagfyr 1964 a chladdwyd ef o flaen y capel ym Mlaenannerch. Priododd, 17 Rhagfyr 1901, Elizabeth Frances Jones, merch Samuel a Judith (ganwyd Hughes) Jones, a bu iddynt un ferch.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.