Ganwyd 10 Rhagfyr 1874 ym Mhorthmadog, Caernarfon, yn fab James Cornelius Morrice, gyrrwr trên, a'i wraig Margaret (ganwyd Thomas). Addysgwyd ef yn ysgol sir Porthmadog a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1897) lle y graddiodd gydag anrhydedd dosbarth I yn y Gymraeg (1900), y cyntaf i wneud hynny yn y Brifysgol, meddir, ac ennill M.A. am draethawd ar ' The poems of William Lleyn ' yn 1902. Wedi'i urddo'n ddiacon yn 1900 ac yn offeiriad yn 1901, bu'n gurad ym Mallwyd, Trefdraeth ac Amlwch (1902, 1903), yn gaplan ar long hyfforddi, Clio, ac yn un o is-ganoniaid Cadeirlan Bangor cyn ei sefydlu'n rheithor Ffestiniog a Maentwrog, 1910-13, a ficer eglwys y Santes Fair, Bangor, 1913-20. Bu'n ficer S. Margaret's, Rhydychen, 1920-26, a thra oedd yno cymerodd radd B.Litt. (1920) a D.Phil. (1923) o goleg Corpus Christi. Yr oedd yn ficer Caergybi, 1926-27, ac o hynny ymlaen mewn amrywiol blwyfi yn Lloegr y bu'n gwasanaethu. Ceir y manylion yn Crockford's.
Bu'n gynhyrchiol iawn fel ysgolhaig yn y cyfnod wedi iddo ymadael â'r coleg. Ef a olygodd y gyfrol gyntaf yng nghyfres y Bangor Manuscripts Society, sef Gwaith barddonol Howel Swrdwal a'i fab Ieuan (1908), a hefyd, yn yr un gyfres, Detholiad o waith Gruffudd ab Ieuan ab Llewelyn Vychan (1910), y ddwy yn seiliedig ar lawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn 1908 cyhoeddwyd ei brif waith, Barddoniaeth William Llŷn, ac yna A manual of Welsh literature (o'r chweched hyd y ddeunawfed ganrif) yn 1909, yn seiliedig ar ddarlithiau a roesai yng Ngholeg Prifysgol De Cymru yn 1902-03. Yr oedd Morrice yn un o'r to cyntaf o olygyddion gwaith y cywyddwyr, ac er bod yn yr argraffiadau hyn ddiffygion eu cyfnod, gallasai fod wedi tyfu'n olygydd a hanesydd llenyddiaeth cymeradwy a dilyn gyrfa yn y brifysgol. Enwebwyd ef gan Fwrdd y Coleg am gadair Gymraeg Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1903 ond ni dderbyniwyd y trefniadau gan Gyngor y coleg. Bu am gyfnod yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ymddangosodd Wales in the seventeenth century yn 1918 a'i draethawd D.Phil., Social conditions in Wales under the Tudors and Stuarts, yn 1925.
Ymddeolodd o reithoriaeth Helmdon, Brockley, Northants., Hydref 1951, a bu farw 22 Ionawr 1953 yn Bournemouth.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.