O'NEIL, BRYAN HUGH ST. JOHN (1905 - 1954), archaeolegydd

Enw: Bryan Hugh St. John O'neil
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1954
Priod: Helen Evangeline O'Neill (née Donovan)
Rhiant: Mabel Meliora O'Neill (née Rowe)
Rhiant: Charles Valentine O'Neill
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archaeolegydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Donald Moore

Ganwyd 7 Awst 1905 yn Llundain, mab Charles Valentine O'Neil a Mabel Meliora (ganwyd Rowe). Addysgwyd ef yn Ysgol Merchant Taylors a Choleg S. Ioan, Rhydychen (M.A.); etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain (F.S.A.) yn 1935. Priododd yn 1939 Helen Evangeline Donovan o Bourton-on-the water, sir Gaerloyw, hithau yn archaeolegydd.

Fe'i penodwyd i'r Swyddfa Gweithfeydd yn 1930 yn Arolygydd Cynorthwyol Henebion ar gyfer Cymru, i olynu C. A. Ralegh Radford. Dyrchafwyd ef yn 1945 i fod yn Brif Arolygydd Henebion ar gyfer Lloegr a Chymru. Yr oedd yn gyfrifol am gynghori ynglyn â chadw a chyflwyno henebion a oedd o dan ofal y Wladwriaeth, ac am gofrestru'r rhai a oedd yn werth eu cadw, pwy bynnag a oedd eu piau. Yr oedd ei swyddfa yn Llundain, ac er treulio 15 mlynedd ar ei ddyletswyddau Cymreig, nid oedd ganddo anheddle yng Nghymru. Ymunodd â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1931, a gwasanaethodd yn ddiweddarach ar ei Phwyllgor Cyffredinol. O'i 200 o gyhoeddiadau a restrwyd, yr oedd traean yn ymwneud ag archaeoleg Cymru; ymddangosent fel rheol yn Archaeologia Cambrensis, Montgomeryshire Collections neu fel cyhoeddiadau H.M.S.O. Fel arolygydd, yr oedd yn rhaid iddo ysgrifennu neu gomisiynu llawlyfrau awdurdodol ar henebion o bob cyfnod. Arbenigai mewn cestyll canoloesol. Yr oedd yn ddyfal ei gloddio, ac fe'i cofir yng Nghymru am ei waith ar fryngaerau cynhanesyddol Breiddin a Ffridd Faldwyn, Trefaldwyn, a Titterstone Clee, Sir Amwythig.

Ymddiddorai mewn arian bath trwy gydol ei oes, ac etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Numismatig Frenhinol. Teithiai'n eang, a chynhyrchodd adroddiad ar gais swyddogol ar gestyll arfordir y Traeth Aur (heddiw Ghana). Yr oedd yn weithiwr diwyd a chydwybodol, yn eglwyswr selog a dilynwr rygbi brwdfrydig. Bu farw 24 Hydref 1954 yng Nghaeredin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.