OWEN, OWEN JOHN (‘John Owen y Fenni’; 1867 - 1960), argraffydd a chyhoeddwr, arweinydd corawl ac arweinydd eisteddfodol

Enw: Owen John Owen
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1960
Priod: Mabel Annie Owen (née Dawson)
Rhiant: Margaret Owain (née Vaughan)
Rhiant: Dafydd Owain
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr, arweinydd corawl ac arweinydd eisteddfodol
Place: y Fenni
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Siân Rhiannon Williams

Ganwyd 1867 yn Nolgellau, Meirionnydd, yn fab i Dafydd Owain, cysodydd a darllenydd yn swyddfa'r Dysgedydd a'r Dydd, a Margaret (ganwyd Vaughan). Bwriodd ei brentisiaeth yn yr un swyddfa cyn symud i'r Fenni yn 1887 i weithio fel cysodydd Cymraeg yn argraffwasg Henry Sergeant. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth, a dysgodd elfennau sol-ffa yn Ysgol Sul yr Hen Gapel, Dolgellau lle yr oedd ei dad yn ysgrifennydd. Yn y Fenni ymaelododd yng nghapel yr Annibynwyr Castle St., a daeth yn ddiacon ac yn arweinydd y gân. Yn 1897 prynodd ef a'i frawd, Edwin Vaughan Owen (bu farw 22 Hydref 1950), y Minerva Press, a daeth eu swyddfa yn Neville St. yn fan cyfarfod i Gymry lleol. Ymhlith y llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Brodyr Owen y mae cofiant eu tad (1907) a gweithiau Eluned Morgan : Dringo'r Andes (1904), Gwymon y môr (1909), Ar dir a môr (1913).

Ar 9 Hydref 1909 priododd John Owen â Mabel Annie Dawson, ac erbyn hynny yr oedd yn adnabyddus fel arweinydd côr, adroddwr, siaradwr cyhoeddus ffraeth ac arweinydd eisteddfodau. Gwrthododd gynnig i arwain yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 1913, ond bu'n arwain ar lwyfan y brifwyl yn gyson wedyn (1920-37), ac urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd. Gŵr egnïol ydoedd, ac yr oedd ei ddiddordebau amrywiol yn cynnwys seryddiaeth, seiclo, moduro, dringo mynyddoedd, arlunio, hanes lleol a chanu'r delyn a rhoddodd dros hanner can mlynedd o wasanaeth fel pregethwr lleyg. Anrhydeddwyd ef â rhyddfraint tref y Fenni yn 1949, ac â'r O.B.E. flwyddyn yn ddiweddarach. Pan fu farw 30 Rhagfyr 1960 talwyd teyrnged iddo fel ‘Nawddsant Gwent’.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/