Ganwyd 5 Chwefror 1880 ym Mhwllheli, Caernarfon, yn fab i John Owen, master mariner, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Hughes). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bala. Ar ôl cwblhau ei dymor erthyglau gyda chwmni Robyns-Owen, Pwllheli, a'i dderbyn yn gyfreithiwr yn 1903, ymunodd ag adran gyfreithiol cyngor sir Llundain. Gwasanaethodd gartref ac yng ngwlad Groeg gyda'r R.A.O.C. yn Rhyfel Byd I ac enillodd reng Capten. Penodwyd ef yn glerc yr heddwch ac yn glerc cyntaf llawn-amser i gyngor sir Meirionnydd yn 1920, swyddi a ddaliodd gydag urddas hyd nes iddo ymddeol ym mis Mawrth 1954. Gwnaed ef yn ddirprwy raglaw y sir yn 1949.
Un o'i brif ddiddordebau oedd hanes lleol a llwyddai'n ddieithriad i drosglwyddo'i frwdfrydedd i eraill. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd yn 1939. Gwnaed ef yn is-lywydd y Gymdeithas a bu'n gadeirydd ymroddedig i'w chyngor o'i chychwyniad hyd ei farwolaeth. Bu'n flaenllaw hefyd dros sefydlu swyddfa cofysgrifau Meirionnydd yn 1952 a thros benodi archifydd sirol. Cynrychiolodd gyngor sir Meirionnydd ar lys llywodraethwyr Ll.G.C. o 1934 hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn ymchwiliwr dyfal a gweithiai'n ddi-baid ar bob math o gofysgrifau lleol, ac yn neilltuol ar rai llys sesiwn chwarter Meirionnydd. Cyhoeddodd bum cyfrol: The Merioneth Volunteers and local militia during the Napoleonic Wars (1934); Echoes of old Merioneth (1944); Sir Love's adventures in Spain (1945); The treasures of the Mawddach (1950) a From Merioneth to Botany Bay (1952). Cyfrannodd rhwng 1951 ac 1961 nifer o erthyglau i Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd. Diogelir ei bapurau, yn briodol iawn, yn y swyddfa gofysgrifau yn Nolgellau. Ni bu'n briod. Bu farw ym Mhwllheli 29 Mehefin 1961 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Sant Hywyn, Aberdaron.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.