Ganwyd 12 Mawrth 1887 yn Rhuthun, Dinbych, mab Samuel a Harriet Owen. Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Rhuthun ac Abergele; ysgol sir Abergele; Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau); a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Dechreuodd bregethu yn 1905 ym Methlehem, Bae Colwyn. Ordeiniwyd ef yn 1913, a bu'n weinidog yn Siloh, Llanelli (1913-15) cyn ei alw i eglwys Jewin, Llundain, a chael gyrfa lwyddiannus yno hyd ddiwedd ei oes. Er mawr ofid iddo dinistriwyd capel hardd Jewin gan fomiau'r gelyn yn ystod Rhyfel Byd II, a dychwelodd llawer o'r aelodau i Gymru. Er hynny daliodd ati'n ddygn gyda'r gweddill, eithr ni chafodd fyw i weld codi addoldy newydd ar sylfaen yr hen. Priododd, 1913, Gracy Jones, Glan Conwy; ganwyd iddynt ddau fab a thair merch. Bu farw 26 Mawrth 1959, a chladdwyd ef ym mynwent Bron-y-nant, Bae Colwyn.
Yr oedd yn bregethwr grymus a phoblogaidd, a galw mawr am ei wasanaeth yng Nghymru. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1954). Rhagorodd er yn ieuanc fel adroddwr ar lwyfannau eisteddfodol, a bu'n beirniadu 'n gyson ar hyd y blynyddoedd ar gystadleuthau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.