PARRY, OWEN HENRY (HARRY PARRY; 1912 - 1956), cerddor jazz

Enw: Owen Henry Parry
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 1956
Priod: Jessie Parry (née Bradbury)
Priod: Gwen Parry (née Davies)
Rhiant: Emily Jane Parry (née Rowlands)
Rhiant: Henry Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor jazz
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 22 Ionawr 1912, yng Nghaellepa, Bangor, Sir Gaernarfon, mab hynaf Henry, gweithiwr rheilffordd, ac Emily Jane (ganwyd Rowlands). Addysgwyd ef yn ysgol Glanadda a'r ysgol ganol. Ymunodd ag Adran Ffiseg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru fel prentis o wneuthurwr offerynnau. Dangosodd ddiddordeb cynnar mewn canu offerynnau cerdd a phan oedd yn ddeuddeg oed ymunodd ag un o fandiau pres y fro. Bu'n aelod o gôr Eglwys Fair, ond ar ganu offerynnau yr oedd ei fryd. Buan y daeth yn gryn feistr ar ganu'r corn tenor, corn flügel, corned, ffidil, heblaw drymiau. Meistrolodd y sacsoffôn nes y dywedir iddo ddod yn bencampwr Cymru am ei ganu. Yr oedd yn hyfedr ar ganu'r clarined - ei hoff offeryn - dan hyfforddiant Francis Jones, y Felinheli (1904 - 1986) yn y lle cyntaf. Dyheai am arddull gyda gogwydd 'swing' iddo ac ymroes o ddifri i arbrofi. Daeth ei arddull i glyw rhai o wyr blaenllaw'r B.B.C. gan ei fod bellach wedi ymuno â rhai o brif fandiau Lloegr. Awgrymodd Charles Chilton ei fod yn ffurfio grwp offerynnol ei hun gan ddefnyddio vibraphone yn lle trwmped. Ar 28 Medi 1940 fe glywyd seiniau chwechawd Clwb y 'Radio Rhythm' a sefydlwyd ganddo am y tro cyntaf. Clywodd Miff Ferrie amdano ac o'r gyfathrach honno y ffurfiwyd y grwp ' Jackdauz '. Cynhaliai gyngherddau yn y Locarno, Llundain, a rhannu llwyfannau gyda cherddorion fel Michael Flome, Louis Levy a Charles Shadwell. Ymunodd â'r pianydd dall, George Shearing, a'r drymiwr, Ben Edwards, i ffurfio triawd a ddaeth yn dra phoblogaidd. Ei chwechawd oedd y cyntaf i wneud record yng nghyfres ' Super Rhythm ' i gwmni Parlophone a pharhaodd ei gysylltiad â'r cwmni hwnnw am ddeng mlynedd. Chwalwyd llawer o'i gynlluniau gan Ryfel Byd II, ond ail-afaelodd ynddi a ffurfio cerddorfa sefydlog yn y Potomac, Llundain. Daeth ei gyfansoddiadau ' Parry Opus ', ' Thrust and Parry ', ' Potomac Jump ', ' Blue for Eight ', ' Says You ' a'r mwyaf poblogaidd, efallai, ' Champagne ' yn enwau teuluaidd ymhlith ei ddilynwyr. Ymddangosodd mewn pum ffilm fer ac fe'i disgrifiwyd gan rai beirniaid fel ' brenin jazz Prydain '. Yn ôl un o'i gyfoeswyr, ef oedd y cyntaf o Gymru a Lloegr i recordio llais yn null offeryn cerdd mewn cydweithrediad â'i fand ei hun. Heidiai'r tyrfaoedd i wrando arno mewn theatrau fel yr Hippodrome, Birmingham; Empire, Woolwich; a'r Empire, Glasgow. Collodd beth o'i boblogrwydd yn ystod ei daith i'r Dwyrain Canol a'r Aifft. Cafodd gyflwyno'r rhaglen boblogaidd ' Housewives Choice ' ar ôl dychwelyd a bu a wnelo â'r rhaglen blant ' Crackerjack '. Yn ôl rhai o golofnwyr y cyfnod bu farw pan oedd ar fin adennill ei boblogrwydd gan mai ef oedd y cyntaf i gyflwyno miwsig 'swing' i'r lleygwr. Fe'i disgrifiwyd gan golofnydd yr Evening Standard ar y pryd fel ' trydydd glarinedydd gorau'r byd '. Ei arwyr oedd Benny Goodman, Artie Shaw, Benny Carter, Count Basie a Glenn Miller. Ceisiodd, yn ystod diwedd ei oes, berffeithio arddull debyg i eiddo Miller. Gallai gyfrif Henry Hall, Roy Fox a Geraldo ymhlith ei gyfeillion. Ei wraig gyntaf oedd Gwen Davies. Ar ôl ysgariad priododd Jessie Bradbury, cantores broffesiynol ond aeth y briodas honno i'r gwellt. Ni bu iddynt blant. Yr oedd ganddo lawer i'w ddweud wrth ei dref enedigol ond prin y câi amser i ddychwelyd.

Bu farw Harry Parry ar 11 Hydref 1956 yn ei ystafell yn Adam's Row, Mayfair, Llundain, a chladdwyd ei weddillion yn Amlosgfa Golders Green, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.