PHILLIPS, DAVID (1874 - 1951), gweinidog (MC), athronydd ac athro;

Enw: David Phillips
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1951
Priod: Emily Phillips (née Treharne)
Rhiant: Sarah Phillips
Rhiant: Henry Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), athronydd ac athro;
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn 1874 yn y Ffwrnes, Llanelli, Caerfyrddin, mab Henry a Sarah Phillips. Bu farw'i dad pan oedd yn ieuanc, a symudodd y fam a'i theulu i Aberpennar, Morgannwg. Cafodd addysg elfennol yn ysgol fechgyn y Dyffryn, ac aeth i weithio yn y lofa. Enillodd ysgoloriaeth yn 1894 ar gyfer glowyr i astudio mwyngloddiaeth, ond perswadiwyd ef gan ei athrawon yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd i baratoi am radd, a graddiodd yn 1898 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn athroniaeth. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, lle graddiodd gydag anrhydedd ar ddau destun athronyddol yn y dosbarth cyntaf. Bu hefyd am dymor ym Mhrifysgol Heidelberg. Dechreuodd bregethu cyn gadael Caerdydd, ond ar ddiwedd ei gwrs colegol penodwyd ef yn 1902 yn ddarlithydd mewn athroniaeth foesol ym Mhrifysgol St. Andrews, yr Alban. Clywodd am y diwygiad yng Nghymru, a dychwelodd i'w gynefin i weld beth oedd yn digwydd yno. Daliwyd ef gan y don, ac argyhoeddwyd ef y dylai ei gyflwyno'i hun i waith y weinidogaeth Gristionogol. Ordeiniwyd ef yn 1905, a bu'n bugeilio eglwys Saesneg Frederick St., Caerdydd, hyd y flwyddyn 1908. Galwyd ef gan ei Gyfundeb i gadair athroniaeth a hanes crefyddau yng Ngholeg y Bala (1908-27), a bu'n brifathro'r coleg hwnnw o 1927 hyd 1947. Dylanwadodd yn fawr ar do ar ôl to o fyfyrwyr yn y Bala, ac wedi iddo ymddeol cafodd radd D.D. er anrhydedd gan Brifysgolion St. Andrews a Chymru. Priododd Emily Treharne, a ganwyd un mab o'r briodas. Bu farw 6 Awst 1951.

Bu'n ŵr amlwg iawn ym mywyd ei Gyfundeb. Traddododd y Ddarlith Davies yn 1919 ar y testun ' Intercourse with God ', ond nis cyhoeddodd. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1938), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1944). Yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth a ymwelodd â maes cenhadol ei Gyfundeb yn Assam yn 1935-36, a rhoes arweiniad sicr i'w eglwys wrth lunio polisi, ar adeg argyfyngus, ar gyfer gwaith cenhadol y dyfodol. Doniwyd ef â chynheddfau meddyliol eithriadol, ac ymddiddorai nid yn unig mewn pynciau athronyddol ond mewn diffinio a mynegi gwirioneddau'r Efengyl. Yr oedd yn un o'r pedwar a luniodd y Datganiad ar ffydd a buchedd. Braidd yn hwyrfrydig ydoedd i gyhoeddi dim. Pan oedd yn yr Alban bu'n is-olygydd yr International Jnl. of Ethics, ac yn ystod yr un cyfnod cyfrannodd ysgrif wych ar yr ' Ego ' i'r Encyclopaedia of Religion and Ethics. Cyhoeddodd fonograffau bychain ar Athroniaeth Syr Henry Jones (1922), Y syniad o Dduw fel person (1932), a Christianity and the state (1938). Bu'n un o olygyddion Y Traethodydd o 1932 hyd ei farwolaeth. Ymddangosodd casgliad o'i ysgrifau yn 1949 dan y teitl Ysgrifau athronyddol, a cheir yn y rheini hufen ei feddyliau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.