PHILLIPS, MORGAN WALTER (1902 - 1963), ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur

Enw: Morgan Walter Phillips
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1963
Priod: Norah Mary Phillips (née Lusher)
Rhiant: William Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Aberdâr, Morgannwg, 18 Mehefin 1902, yn un o chwe phlentyn William Phillips, ond magwyd ef ym Margod, Morgannwg. Gadawodd yr ysgol pan oedd yn 12 oed i weithio ar ben pwll glo. Nid oedd ond 18 oed pan ymunodd â Phlaid Lafur rhanbarthol Caerffili. Daeth yn ysgrifennydd y blaid ym Margod, 1923-25, ac yn gadeirydd Cyfrinfa Glo Rhydd Bargod, 1924-26. Ar ôl mynychu cwrs mewn pynciau economaidd a chymdeithasol yng Ngholeg Llafur Llundain am ddwy flynedd daeth yn ysgrifennydd y Blaid Lafur yn West Fulham, 1928-30, ac yn Whitechapel yn ddiweddarach, 1934-37. Cafodd brofiad hefyd mewn llywodraeth leol fel aelod o gyngor bwrdeistref Fulham am 3 blynedd. Yn 1937 aeth i bencadlys y blaid yn Transport House fel swyddog propaganda, a'i benodi'n ysgrifennydd adran ymchwil y blaid yn 1941. Gan ei fod yn drefnydd galluog a wnâi benderfyniadau clir ar unwaith, ni fu'n hir cyn cael ei ddyrchafu'n ysgrifennydd ei blaid, a'i wneud yn ysgrifennydd cyffredinol yn 1960. Ef yn anad neb oedd wrth wraidd yr ymchwydd yn ffyniant y blaid a arweiniodd at chwe blynedd o lywodraeth Lafur. Eto i gyd, tueddid i feio'i drefnyddiaeth ef pan orchfygwyd y blaid yn etholiad cyffredinol 1955. Ond er i'r Blaid Lafur golli'r etholiad eto yn 1959, cynyddodd ef mewn bri bryd hynny. Ei gyfarfyddiadau dyddiol ef â phobl y wasg oedd un o lwyddiannau mwyaf arbennig yr etholiad. Fel gyda'r mwyafrif o ddosbarthiadau o bobl y deuai i gysylltiad â hwy, deallai'r gohebwyr i'r dim, ac atebai eu cwestiynau'n eithriadol gryno. Cadwodd y Blaid Lafur rhag chwalu'n llwyr ar ôl yr etholiad trwy gyflwyno dadansoddiad clir o'r hyn a ddigwyddodd ac awgrymiadau adeiladol at y dyfodol, llawer o'r rhai a gynhwyswyd yn ei bapur, Labour in the Sixties (1960). Cyhoeddodd hefyd East meets West (1954) ac amryw bamffledi politicaidd ac economaidd.

Fel un o wŷr mawr rhyngwladol y mudiad Llafur llywyddodd gyfres o gynadleddau a drefnwyd gan y Pwyllgor Sosialaidd Rhyngwladol o 1944 ymlaen a bu'n gadeirydd y Socialist International o'i gychwyn yn 1948 nes ymddiswyddo yn 1957. Yr oedd ar frig ei yrfa pan gafodd drawiad ym mis Awst 1960, a bu'n rhaid iddo ymddeol ymhen blwyddyn. Priododd Norah Lusher yn 1930 a bu iddynt fab a merch. Bu farw 15 Ionawr 1963 yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.