Ganwyd 20 Ebrill 1883, yn ail fab i Thomas Phillips, ysgolfeistr Cemaes, Trefaldwyn, a Jane Ryder (ganwyd Whittington) ei wraig. Yn 1897 aeth i ysgol sir Machynlleth lle yr enillodd lawer o ysgoloriaethau a chafodd radd B.A. Prifysgol Llundain cyn gadael yr ysgol yn 1902 i fynd i Goleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn y dosbarth cyntaf yn y clasuron (Lit. Hum.) ac ennill gwobr Gaisford am ryddiaith Roeg yn 1905. Galwyd ef i'r Bar gan Gray's Inn yn 1913. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn 1906 gyda'r Bwrdd Masnach lle y cafodd gyfrifoldeb arbennig am faterion hawlfraint. Trosglwyddwyd ef i'r Weinyddiaeth Lafur yn 1919 a chyn pen fawr o dro dyrchafwyd ef yn ddirprwy ysgrifennydd yr adran ac yn ysgrifennydd parhaol yn 1935. Ef oedd un o brif benseiri'r adran fawr honno gyda chyfrifoldeb am y cyfnewidfeydd cyflogi, yswiriant diweithdra, byrddau masnach, a chyflafar-eddiadau diwydiannol. Yr oedd y Weinyddiaeth Lafur a Gwasanaeth Gwladol yn ddyledus iddo ef am ei henw da, yn arbennig am ei arweiniad anymwthiol ond effeithlon yn ystod Rhyfel Byd I pryd y dygwyd hi i gysylltiad agos â phob math o alwedigaeth wrth gynnull dynion a merched i'r lluoedd arfog ac i'r ffatrïoedd arfau. Yn 1944 penodwyd ef yn Ysgrifennydd Parhaol y weinyddiaeth newydd a grewyd i redeg cynllun yswiriant gwladol newydd, swydd a gadwodd am bedair blynedd. O 1948 ymlaen bu'n gadeirydd nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Bwrdd Tir Canolog a'r Comisiwn ar Ddifrod Rhyfel (1949-59). Ac yntau'n meddu'r ddawn i ddatrys cymhlethdodau, gwerthfawrogid ei farn gan olyniaeth hir o weinidogion. Cydnabuwyd ei waith nodedig drwy ei urddo'n farchog (1936), a derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd Prifysgol Cymru (1946) yn ogystal â nifer o anrhydeddau eraill. Yr oedd yn aelod amlwg o Gymdeithas Trefaldwyn yn Llundain.
Priododd yn 1913 Alice Hair Potter (a fu farw 1965), a bu iddynt ddau fab a merch. Bu yntau farw 21 Medi 1966.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.