Ganwyd yn un o efeilliaid yn 1872, o fewn dosbarth cofrestru Henffordd, i deulu mawr John Picton Warlow, neu John Picton-Turbervill o Briordy Ewenni, Morgannwg, yn ddiweddarach (1891), ac Eleanor (ganwyd Temple) ei ail wraig. Yn fuan wedi gadael y Royal School, Caerfaddon, cafodd ei phrofiad cyntaf o waith cymdeithasol ger ei chartref newydd ym Mro Morgannwg pan geisiodd wella amodau byw y cloddwyr a weithiai ar y rheilffordd yno. Yna aeth i Lundain am gyfnod a phrofi drosti ei hun fywyd pobl dlawd Shoreditch drwy fyw fel hwy. Wedyn treuliodd chwe blynedd yn yr India fel gweithiwr cymdeithasol ac ar ôl dychwelyd adref daeth yn ysgrifennydd tramor Cymdeithas Gristnogol Menywod Ifainc (Y.W.C.A.). Yn ddiweddarach, a hithau'n islywydd y mudiad am ddeng mlynedd, teithiodd y byd ac amlygodd ei gallu arbennig fel trefnydd ac arweinydd trwy godi chwarter miliwn o bunnoedd at anghenion y mudiad adeg y rhyfel a threfnu i agor nifer fawr o hosteli Y.W.C.A. Yn fuan wedi'r Rhyfel Byd I gwahoddwyd hi i bregethu mewn eglwys yn North Somercotes, swydd Lincoln, y wraig gyntaf i gael gwneud hynny mewn oedfa. Ni pheidiodd ag argymell Eglwys Loegr i dderbyn menywod i urddau llawn yr offeiriadaeth. Ymunodd â'r Blaid Lafur a bu'n ymgeisydd aflwyddiannus yn etholiadau cyffredinol 1922 ac 1924 ond daeth yn aelod seneddol dros etholaeth Wrekin, Swydd Amwythig, yn 1929. Dewiswyd hi'n aelod o bwyllgor eglwysig y llywodraeth, y wraig gyntaf i gael yr anrhydedd. Yn ystod ei arhosiad byr o ddwy fl. yn y senedd cyflwynodd fel aelod preifat Fesur Dedfryd Marwolaeth (Mamau Beichiog) a ddaeth yn ddeddf gwlad ac a ofalai na ddienyddid unrhyw wraig feichiog. Yn 1936 aeth i Malaya a Hong Kong fel un o'r comisiynwyr a anfonwyd i ymchwilio i gaethwasiaeth plant yno. Yn 1937 cyhoeddwyd ei hadroddiad lleiafrifol, a argymhellai ddeddfwriaeth gadarnach nag a wnâi ei chydgomisiynwyr, a chydsyniodd llywodraethau Malaya a Hong Kong i weithredu ei chynlluniau mewn egwyddor.
Ymhlith ei gweithiau cyhoeddedig ceir: The musings of a lay woman, Christ and woman's power, Christ and international life, (gydag eraill) Myself when young (1938), In the land of my fathers (1946), a Should women be priests and ministers? (1953). Siaradai ac ysgrifennai'n rymus a chyfareddol. Gwnaeth iddi'i hun gylch eang o gyfeillion ond ni fu'n briod. Tua diwedd ei hoes ymgartrefodd ger Cheltenham, wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hoes ym Mhriordy Ewenni a Llundain. Bu farw 31 Awst 1960 yn 88 mlwydd oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.