PIERCE, JOHN (1889 - 1955), awdur, gweinidog (MC) ac athro ysgol

Enw: John Pierce
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1955
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur, gweinidog (MC) ac athro ysgol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd yn Llandegfan, Môn, 10 Awst 1889. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Biwmares; Coleg y Brifysgol, Bangor, lle'r enillodd radd B.A. yn 1915; a Choleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1918 a'i alw i fugeilio eglwys Adwy'r Clawdd. Gadawodd yn 1921 pan benodwyd ef yn athro Cymraeg yn ysgol ramadeg Llangefni. Bu farw 19 Ionawr 1955. Ysgrifennodd amryw o storïau antur i blant: Tri mewn trybini (1973), Dan lenni'r nos (1938), Blacmel (1946), ' Yr Ysbïwr ' yn Storïau ias a chyffro (1951).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.