PODE, Syr EDWARD JULIAN (1902 - 1968), cyfrifydd a diwydiannwr

Enw: Edward Julian Pode
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1968
Priod: Jean Pode (née Finlay)
Rhiant: Lilla Pode (née Telfer)
Rhiant: Edward Pode
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfrifydd a diwydiannwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Economeg ac Arian
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 26 Mehefin 1902 yn Sheffield, mab Edward a Lilla (ganwyd Telfer) Pode. Addysgwyd ef ym Mount House, ger Plymouth, ac yn H.M.S. Conway ac ymunodd â'r llynges adeg Rhyfel Byd I. Yn 1926 cychwynnodd ar ei waith oes mewn diwydiant yng Nghymru pan ymunodd â chwmni Guest, Keen a Nettlefolds, Cyf. yn Nowlais fel cyfrifydd rhanbarthol. Pan unwyd GKN a chwmni Baldwins Cyf. yn 1930 daeth yn ysgrifennydd y cwmni newydd a'i ddyrchafu nes dod yn gyfarwyddwr trefniadol yn 1945. Er ei fod yn erbyn gwladoli'r diwydiant dur, darbwyllwyd ef yn 1947 i fod yn gyfarwyddwr Cwmni Dur Cymru, ac yn gadeirydd, 1962-67. O dan ei ddwylo daeth yn gwmni dur mwyaf Ewrob, a'r cynnyrch yn cynyddu o hanner miliwn tunnell o ddur y flwyddyn i dair miliwn. Bu'n aelod o'r pwyllgor gwaith ac yn llywydd (1962-64) Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain, ac yn is-lywydd y Sefydliad Haearn a Dur. Cymerai ddiddordeb mawr mewn arbed tanwydd ac ysgrifennodd erthygl ar effeithlonrwydd tanwydd mewn diwydiant yn Industrial Wales, Mehefin 1952, gan ddod yn gyfarwyddwr, ac yna'n gadeirydd (1965), Gwasanaeth Effeithlonrwydd Diwydiannol Cenedlaethol. Cymerai ddiddordeb mewn llawer maes heblaw'r gwaith dur, a bu'n gadeirydd Corfforaeth Datblygu Cymru (1958) a chwmni Doc Sych Tywysog Cymru, Abertawe, ac yn gyfarwyddwr Banc Lloyd, ac enwi dim ond ychydig. Cafodd gymrodoriaethau perthynol i'w broffesiwn a diploma er anrhydedd. Cydnabuwyd ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus pan wnaed ef yn siryf Morgannwg yn 1948 ac yn ynad heddwch yn 1951. Cafodd ryddfreiniaeth Port Talbot yn 1957 am effaith ei lwyddiant yn y gwaith dur ar ffyniant yr ardal. Urddwyd ef yn farchog ddydd Calan 1959. Ei allu i fynd yn union at graidd unrhyw fater, ei barodrwydd i wneud penderfyniad cadarn ar fyr rybudd, a'i ddawn i gael y gorau o'r rhai a weithiai oddi tano oedd y rhinweddau a gyfrannodd at ei lwyddiant nodedig. Un o'i ddiddordebau oedd ffermio ac yr oedd mor boblogaidd ymhlith ffermwyr Tresimwn ag ydoedd yn nhref Port Talbot.

Priododd yn 1930 â Jean Finlay merch F. Finlayson, Gwynfa, Caswell, Abertawe, a bu iddynt ddau o blant. Bu farw yn ei gartref, The Great House, Tresimwn, Morgannwg, 11 Mehefin 1968, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.